Mae holl docynnau penwythnos Sesiwn Fawr Dolgellau wedi’u gwerthu’n gynt nag erioed o’r blaen, ac mae’r trefnwyr wedi rhoi rhagor ar werth er mwyn ymateb i’r galw.

Mae’r ŵyl yn 30 oed eleni ac er mwyn ymateb i’r galw, mae’r trefnwyr wedi rhyddhau rhagor o docynnau ar gyfer gigs poblogaidd y Clwb Rygbi ac ar gyfer cyngerdd unigryw yn Eglwys y Santes Fair i gloi’r penwythnos ar y nos Sul.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos Gorffennaf 15-17, ac mae’r amserlen lawn i’w chael ar sesiwnfawr.cymru, gyda 54 o fandiau’n perfformio ar naw o lwyfannau yng nghanol y dref, gydag amrywiaeth o gerddoriaeth werin, roc a byd.

Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos ar brif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship mae Yws Gwynedd, Sŵnami, Tara Bandito, Skerryvore o’r Alban, N’famady Kouyaté o Guinea yng ngorllewin Affrica a The Trials of Cato.

“Dwi wedi bod i fwynhau’r Sesiwn Fawr sawl gwaith, ond dyma’r tro cyntaf i mi chwarae, a dwi mor ecseited!”meddai Tara Bandito.

“Bydd hi wir yn treat cael dod â Tara Bandito i brif lwyfan yr ŵyl, a bod yn rhan o’r dathliadau eleni.”

Tocynnau

Er bod holl docynnau Penwythnos Sesiwn Fawr Dolgellau eisoes wedi’u gwerthu, mae modd mwynhau arlwy’r ŵyl drwy archebu tocynnau ar gyfer gigs y Clwb Rygbi a’r Eglwys, neu drwy grwydro llwyfannau eraill yr Ŵyl yn y Sgwâr ac amrywiol dafarndai’r dref.

Mae modd prynu tocyn ar gyfer dwy noson y Clwb Rygbi am £20 yn unig i fwynhau setiau gan rai o brif fandiau’r ŵyl sy’n cynnwys HMS Morris, Yr Eira, Eadyth, Mellt a Kim Hon.

Am y tro cyntaf erioed, fe fydd cyngerdd arbennig yn Eglwys y Santes Fair gyda Casi Wyn x Seindorf, Vrï a Beth Celyn ar y nos Sul i gloi’r arlwy gerddorol.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd cyfuniad cyffrous o sesiynau llên, comedi a gweithgareddau i blant.

Ymysg y sgyrsiau llenyddol fydd trafodaeth ‘Urdd Gobaith beth?’ gyda Mari Emlyn yn nodi canmlwyddiant y mudiad, pennod arbennig o bodlediad Colli’r Plot, a digwyddiad arbennig i lansio cyfrol y Sesiwn, ‘Dydy’r Sgwar ddim digon mawr’, fydd yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch yn nes ymlaen yn y flwyddyn fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn 30 oed.

Bydd ardal newydd sbon y ‘Pentre’ Plant’ yn cynnig rhagor o adloniant i gynulleidfa iau’r Sesiwn eleni gyda sesiynau gan Welsh Whisperer, Bethan Gwanas, celf a chrefft gyda’r artist Catrin Williams a llawer mwy.

Bydd Sesiwn Gomedi yn cloi dathliadau’r penwythnos ar nos Sul Gorffennaf 17 yn Nhŷ Siamas, gyda setiau gan Hywel Pitts, Dan Thomas, Gethin Evans, Eleri Morgan a Steffan Evans.

Wedi dwy flynedd o gynnal y Sesiwn Fawr yn ddigidol, y bwriad yw adeiladu ar y profiadau newydd a ddaeth yn sgil yr ŵyl rithiol, parhau i gynnal ei hysbryd croesawgar a chynhwysol, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd i Ddolgellau i fwynhau’r arlwy arbennig sydd gan yr ŵyl a’r dref i’w cynnig.

“Roedd chwarae Sesiwn Fawr Digi-Dol blwyddyn ddiwethaf yn un o’n huchafbwyntiau ni mewn cyfnod anodd. Da ni methu aros i ddod yn ôl flwyddyn yma hefo’r band llawn o dan amodau mwy hwylus!” meddai’r band Derw, fydd yn perfformio yn y Ship ar brynhawn Sul, Gorffennaf 17.

‘Hir ymaros’

“Ar ôl hir ymaros, rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd trigolion Dolgellau, ynghyd â hen ffrindiau a rhai newydd yn ôl i fwynhau’r Sesiwn mewn person unwaith eto,” meddai Guto Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau.

“Mae hi wedi bod yn bleser sicrhau lein-yp cryf er mwyn dathlu’r garreg filltir arbennig o 30 mlynedd ers sefydlu’r Sesiwn Fawr!”

Bydd noddwyr prif lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau eleni, BBC Radio Cymru, yn darlledu pigion o gefn Gwesty’r Ship; a bydd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau’r ŵyl mewn rhaglen arbennig 90 munud o hyd ar S4C, nos Sadwrn 23 Gorffennaf 2022.

“Braint yw cael dathlu’r 30 ar draws ein llwyfannau gan roi blas o’r Ŵyl arbennig a hanesyddol hon i’n gwylwyr. Ni’n falch iawn o’r bartneriaeth, ac yn edrych ymlaen at y Sesiwn eleni,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant a Cherddoriaeth S4C.

I weld amserlen yr ŵyl yn llawn, ac am fwy o wybodaeth, ewch i www.sesiwfawr.cymru a chyfryngau cymdeithasol Sesiwn Fawr Dolgellau @sesiwnfawr / #SFD30