Mi fydd Yws Gwynedd a’r band yn chwarae eu gig gyhoeddus gyntaf ers 2017 heno (nos Wener, Mai 20) yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon.

Hefyd heddiw, mae’r cerddor poblogaidd yn rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Dau Fyd’.

Wrth siarad gyda golwg360 ar drothwy’r gig heno, mae Yws Gwynedd yn dweud ei fod wedi ystyried rhoi’r gorau i berfformio yn fyw yn dilyn cyfres o gigs hynod lwyddiannus bum mlynedd yn ôl.

Yn 2017, daeth bron i bedair mil o bobol i wylio Yws Gwynedd a’r band ar nos Sadwrn olaf Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn.

Y 3,950 oedd yno yw’r nifer uchaf erioed i wylio gig ym Maes B.

Ond er y llwyddiant, roedd Yws Gwynedd yn ystyried rhoi’r ffidil yn y to ar y pryd.

“Roedden ni wedi penderfynu ein bod ni wedi gwneud gymaint ag yr oedden ni yn gallu,” cofia’r canwr.

“Yn 2017, roedden ni wedi gwneud fwy neu lai popeth yng Nghymru, ac roeddwn i newydd gael plant.

“Mae’r hynaf sydd gen i yn saith oed rwan, a wnaeth fy ail blentyn i gyrraedd yr Haf yna [ym mis Mai 2017], ac mae’r naid o un i ddau blentyn yn masssive… A wnaeth Ems y bassist gael cwpwl o blant yr adeg yna hefyd…”

Er iddo chwarae hanner awr o set ym mhriodas Gerwyn Murray, basydd y band Sŵnami, yn 2019, nid yw Yws Gwynedd wedi canu yn gyhoeddus ers pum mlynedd.

Ond bu dwy flynedd o gyfnodau clo Covid yn sbardun i ddychwelyd i’r llwyfan.

“Mae hwnna wedi gwneud i ni feddwl: ‘Ti’n gwybod be’? Mae bywyd yn fyr!’ – er bod ni wedi dweud na fysa ni efallai ddim yn boddran eto.

“Ac rydan ni wedi rhyddhau dwy gân newydd [yn ystod y cyfnod clo], felly beth am wneud un gân arall ac wedyn mi fydd yna reswm i berfformio yn fyw.”

Yn ogystal â’r gig heno, mi fydd Yws Gwynedd a’r band hefyd yn perfformio ar nos Wener ola’ Eisteddfod yr Urdd yng Ngŵyl Triban, yng ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, Sesiwn Fawr Dolgellau ac yn Nhregaron ar 6 Awst.

Mae Yws Gwynedd a’r band wedi ffilmio fideo i’r gân newydd sydd allan heddiw: