O wyliau cefn gwlad i gigs yng nghanol Caerdydd, mae yna ddigonedd ymlaen penwythnos yma. Dyma ‘Geid golwg360’…


Gŵyl Fach y Fro, Ynys y Barri

Bydd Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd i Ynys y Barri ar ôl i’r ŵyl gael ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid.

Ymysg y rhai fydd yn perfformio mae MR, Huw Chiswell, Bwncath, Morgan Elwy, Lily Beau, Papur Wal, Hana Lili, Tacsidermi a Dagrau Tân.

Mae’r ŵyl, sy’n cael ei threfnu gan Fenter Iaith Bro Morgannwg, yn cynnwys dau lwyfan, sef y Prif Lwyfan a Glanfa Gwynfor, sef llwyfan i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Pryd? Rhwng 11yb a 8yh, dydd Sadwrn (Mai 21)

Ble? Prom Ynys y Barri

Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd i Ynys y Barri am y tro cyntaf ers dwy flynedd

Cadi Dafydd

Mae hi’n hanfodol bod pobol ym mhob rhan o Gymru’n cael y cyfle i wrando ar gerddoriaeth fyw Gymraeg, medd Alun Williams o Bwncath wrth edrych ymlaen
Gŵyl Fach y Fro, Orielodl

Ffotograffau Gŵyl Fach y Fro’r gorffennol yn ysbrydoli gwaith celf yr ŵyl gan Orielodl eleni

Alun Rhys Chivers

Fe fu Rhys Padarn Jones yn cydweithio â phlant lleol i greu murluniau arbennig yn y Barri

 


Gŵyl Summit Beacon, Caerdydd

Bydd y gynhadledd diwydiant cerddoriaeth i bobol ifanc gan bobol ifanc yn digwydd mewn amryw o leoliadau ar draws Caerdydd y penwythnos hwn.

Mae’r penwythnos yn addo bod yn gymysgedd o weithdai, panelau, cerddoriaeth fyw, rhwydweithio a mwy.

Ei phwrpas yw “eich rhoi ar ben ffordd eich taith greadigol, i ddarlunio eich gyrfa, ac i gynnig arweiniad ichi drwy labrinth gwefreiddiol y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg”.

Ymysg y rhai sy’n perfformio yn fyw mae Sage Todz, Eädyth a Boy Azooga.

Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim.

Cliciwch yma i weld yr amserlen lawn a’r lleoliadau.

Pryd? Dydd Iau (Mai 19) – Dydd Sadwrn (Mai 21)

Ble? Amryw o leoliadau o amgylch Caerdydd canolog


Tregaroc, Tregaron

Mae gŵyl gerddoriaeth flynyddol Tregaron yng Ngheredigion yn ôl y penwythnos yma a bydd gigs o gwmpas lleoliadau tref leiaf Ceredigion.

Yn perfformio mae Welsh Whisperer, Bronwen Lewis, Gwilym Bowen Rhys, I Fight Lions, Tara Bandito, Candelas a mwy!

Mwy o wybodaeth ar Facebook.

Pryd? Dydd Sadwrn (Mai 21)

Ble? Lleoliadau o gwmpas Tregaron

Tregaroc yn gyfle i godi’r hwyl yn Nhregaron cyn yr Eisteddfod

Cadi Dafydd

Bydd yr ŵyl gerddoriaeth yn dychwelyd i’r dref am y tro cyntaf ers 2019 ddydd Sadwrn (Mai 21), gydag artistiaid fel Gwilym Bowen Rhys a Tara Bandito

Gigs Tŷ Nain, Caernarfon

Bydd Gigs Tŷ Nain yn dychwelyd, ond i Neuadd y Farchnad y tro hwn.

Perfformiadau gan Yws Gwynedd, Tesni Hughes, Dienw a DJ Guto.

Mae tocynnau ar gael am £11.

Pryd? 8yh, nos Wener (Mai 20)

Ble? Neuadd y Farchnad, Caernarfon


Arddangosfa Gelf – Bywydau Cefn Gwlad, Llandysul

Bydd Sue Dewhurst yn lansio ei harddangosfa newydd dros y penwythnos.

Mae’r arddangosfa llawn paentiadau sy’n archwilio treftadaeth amaethyddol, ysguboriau, ffermio, da byw a phobol – hanfod bywyd cefn gwlad.

Hefyd, mae astudiaethau gan Hen Wragedd a Llanciausef cymeriadau hŷn, hwyliog sy’n aml yn cael eu hanwybyddu mewn cymdeithas fodern, ond sy’n dal i fod â llawer i’w ddweud!

Mae Sue yn estyn croeso i bawb ac yn enwedig i’r gymuned ffermio alw heibio a dweud helo, ac mae bob amser yn awyddus i glywed straeon am deuluoedd ffermio ar hyd y cenedlaethau.

Pryd? Rhwng 10yb a 4yh ddydd Sadwrn (Mai 21) a’r dydd Sul canlynol (Mai 29)

Ble? Y Pwerdy, Stryd y Capel, Pont-Tyweli, Llandysul

Bywydau Cefn Gwlad – Arddangosfa Gelf

10:00, 21 Mai 2022 – 16:00, 29 Mai 2022 (Am ddim)
Bywydau Cefn Gwlad – Arddangosfa Gelf gan yr artist Sue Dewhurst Paentiadau sy’n archwilio treftadaeth amaethyddol, ysguboriau, ffermio, da byw a phobl – hanfod bywyd cefn …

Diwrnod Agored Hanes Lleol, Llandysul

Os ydych o Landysul a bod gennych chi ddiddordeb yn hanes eich cartref neu Llandysul a’r cyffiniau, ewch draw i weld y casgliad o luniau, dogfennau cyfrifiadau a mwy.

Pryd? 11yb – 4yp ddydd Sadwrn (Mai 21)

Ble? Neuadd Tysul, Llandysul

Diwrnod Agored Hanes Lleol

11:00, 21 Mai 2022 (Am ddim)
Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a’r Fro Dydd Sadwrn, 21ain Mai, 2022, 11yb – 4 yhNeuadd Tysul, Llandysul Os oes gennych ddiddordeb yn hanes eich cartref neu am Llandysul a’r ardal o gwmpas, …

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Maes Sioe Frenhinol Cymru

Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon.

Gyda rhaglen orlawn o gystadlaethau da byw a cheffylau, arddangosfeydd a gweithgareddau, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Pryd? Dydd Sadwrn (Mai 21) – Dydd Sul (Mai 22)

Ble? Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair-ym-Muallt


Gig Twrw

Twrw yn cyflwyno Morgan Elwy, Elis Derby, Mari Mathias a DJ Dilys.

Mae tocynnau ar gael yma.

Pryd? 7yh, nos Sadwrn (21 Mai)

Ble? Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Am ragor o wybodaeth am rai o’r digwyddiadau, neu os hoffech chi hysbysebu’ch digwyddiad eich hun, ewch draw i Calendr360.