Mae Cyngor Gwynedd wedi ailethol eu harweinydd Dyfrig Siencyn, y Cynghorydd dros ward Gogledd Dolgellau.
Cafodd ei ethol heddiw (dydd Iau, Mai 19) yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor llawn yn dilyn yr etholiadau lleol.
Fo ydi arweinydd y Cyngor ers 2017, ac mae’n arwain grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor.
“Mae’n fraint cael fy ailethol i arwain Cyngor Gwynedd, ac rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’m cyd-aelodau a swyddogion y Cyngor dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.
“Mae’r etholiad diweddar wedi gweld nifer o wynebau newydd yn cael eu hethol i gynrychioli cymunedau Gwynedd.
“Rydw i’n hynod falch fod yna gynnydd arwyddocaol yn y nifer o ferched ar y Cyngor ynghyd â nifer o aelodau newydd ifanc, a bydd pob un ohonynt yn dod â phrofiadau a phersbectif newydd fydd yn cyfoethogi ein gwaith fel Cyngor.
“Does dim dwywaith y bydd pob un o’r aelodau yn gwneud cyfraniad a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio a thrafod gyda’m cyd-gynghorwyr ar draws y Cyngor er budd cymunedau Gwynedd.”
‘Diolch’
Mae Dyfrig Siencyn wedi diolch i’r cynghorwyr sy’n ymddeol, gan ddweud bod y ddyled yn fawr iddyn nhw am eu gwaith ar hyd y blynyddoedd i wasanaeth cyhoeddus.
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod sydd wedi bod, dywed y gall y Cyngor ymfalchïo yn eu gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, yn ystod Covid a’r wasgfa ariannol.
“Yn wir, fe amlygodd y pandemig pa mor bwysig ydi llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau, ac yn sicr fod cynghorau yn haeddu parch dyladwy ac wrth gwrs y cyllid i gyflawni,” meddai.
“Rydym hefyd yn falch ein bod wedi arwain ar gynnig datrysiadau i’r argyfwng ail gartrefi a byddwn yn parhau gyda’r gwaith allweddol yma er budd ein cymunedau a phobol Gwynedd.
“Byddwn yn gweithio i sicrhau swyddi o werth uchel i bobol yr ardal, ac yn arwain ar greu diwydiant twristiaeth cynaliadwy sy’n dod â budd a pharch i’n cymunedau.
“Ond does dim amser i orffwys ar ein rhwyfau – mae gennym waith sylweddol o’n blaenau eto wrth sicrhau ein bod yn gwella ac yn rhoi pobol Gwynedd yn gyntaf yng ngwir ystyr y gair.
“Mae argyfwng costau byw yn ein wynebu; argyfwng tlodi ynni ac argyfwng newid hinsawdd, ond gwnawn hynny gyda hyder.
“Rwyf rŵan yn edrych ymlaen at sefydlu Cabinet newydd y Cyngor a gweithio gyda’r holl gynghorwyr i’r gwaith sydd o’n blaenau i gyfrannu at greu Gwynedd lewyrchus, Gwynedd ofalgar, Gwynedd hyderus a Gwynedd Gymraeg.”
Bydd y Cynghorydd yn cyhoeddi aelodau Cabinet y Cyngor dros yr wythnosau nesaf.