Ar ddechrau Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Drenewydd (dydd Gwener, Mai 20), bydd Andrew RT Davies yn cynnig system o gynllunio “drwy orfodaeth” er mwyn cynyddu nifer y tai sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru fel bod modd i fwy o bobol wireddu eu huchelgais o fod yn berchen ar dŷ.
Wrth ddatgan fod “bod yn berchen ar dŷ yn golygu rhyddid – un o’r gwerthoedd mwyaf Ceidwadol”, bydd arweinydd yr wrthblaid yn y Senedd yn dweud bod rhaid newid y system gynllunio er mwyn atal datblygwyr rhag manteisio arni, ac er mwyn dod â record wael Llywodraeth Lafur Cymru o adeiladu dim ond hanner y tai sydd eu hangen ar Gymru i ben.
Byddai ei gynigion yn gorfodi datblygwyr i gwblhau gwaith adeiladu ar dir maen nhw wedi cael caniatâd i adeiladu arno, tra bod y rheolau presennol ond yn eu gorfodi nhw i ddechrau ar y gwaith.
Byddai methu â chwblhau’r gwaith heb reswm da yn arwain at dynnu ceisiadau cynllunio yn ôl yn ogystal â chosb ariannol.
Ar hyn o bryd, dim ond 6,000 o gartrefi sy’n gallu cael eu cwblhau bob blwyddyn, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y galw ddwywaith y ffigwr hwnnw.
Ail gartrefi
Mae’r cynlluniau’n mynd yn groes i safiad Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig ddadlau bod y drefn bresennol yn “ymosodiad ar hawliau eiddo” na fyddan nhw’n gwneud dim i leddfu’r problemau yng Nghymru, wrth i arbenigwyr ddadlau nad oes digon o gyflenwadau i ateb y galw.
Yn ei araith, mae disgwyl i Andrew RT Davies ddweud bod gan y blaid “ddyletswydd i beidio ag eistedd yn segur a gwylio wrth i’r cyfle i fod yn berchen ar dŷ ddiflannu o flaen llygaid pobol iau yma yng Nghymru”.
Mae’n dadlau y dylai’r llywodraeth gefnogi pobol “o’r crud i’r bedd”, ac nid “dal eich llaw a gyrru eich ymddygiad”.
Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai yng Nghymru mae’r gyfradd dwf uchaf ym mhrisiau tai o blith gwledydd y Deyrnas Unedig, gyda chynnydd o 11.7% i £206,000 yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth.
Uchafbwyntiau disgwyliedig yr araith
Ymhlith uchafbwyntiau disgwyliedig eraill araith Andrew RT Davies mae
- galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi i Gymru gyfran deg o arian yn sgil gwariant ar HS2 drwy Fformiwla Barnett, ac i wneud Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc
- canmol y Ceidwadwyr yn San Steffan am fynd i’r afael â chostau byw, o godi’r cyflog byw cenedlaethol a thorri’r dreth danwydd i godi’r trothwy Yswiriant Gwladol a chyflwyno rhyddhad ar gyfer Credyd Cynhwysol
- beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fod yn “sylwebyddion” yn hytrach na rhai sy’n galluogi pethau i ddigwydd, gan roi eu huchelgais o sicrhau mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd o flaen mynd i’r afael â’u record ar iechyd, addysg a’r economi
- atgoffa gweithwyr yng Nghymru eu bod nhw’n ennill £60 yr wythnos yn llai o gyflog na gweithwyr yn yr Alban, ar gyfartaledd, er bod ganddyn nhw gyflogau tebyg ar ddechrau datganoli
- beirniadu’r Democratiaid Rhyddfrydol am gefnogi ymchwiliad Covid i Gymru ar ôl atal ymdrechion y Ceidwadwyr Cymreig i gynnal pleidlais ar y mater y llynedd
- galw ar y Ceidwadwyr Cymreig i “wisgo’r crys coch”, gan ddweud nad yw “Cymreictod ddim yn perthyn yn ecsgliwsif i Lafur”.
‘Llafur wedi methu adeiladu digon o dai’
“Fe fu’n wych cael cynnull Plaid Geidwadol Cymru am y tro cyntaf ers dwy flynedd, a chael defnyddio’r cyfle i fynd i’r afael â phroblem enfawr y wlad o ran tai,” meddai Andrew RT Davies cyn dechrau’r gynhadledd.
“Mae’n ffaith fod Llafur wedi methu adeiladu digon o dai i bobol yng Nghymru.
“Mae busnesau’n gweld ychydig iawn o isadeiledd i ddenu gweithwyr fel nad ydyn nhw’n buddsoddi, sy’n golygu bod pobol ifanc yn gadael o ganlyniad i ddiffyg swyddi, tra bod y rhai sy’n aros yn cael eu prisio allan gan ddarpariaeth wael o ran cyflenwad tai a bwlch cyflog £60 yr wythnos Llafur.
“Mae Llafur – a’u cynorthwywyr ym Mhlaid Cymru – yn sylwebyddion, nid yn rhai sy’n galluogi.
“Maen nhw’n blaenoriaethu mwy o wleidyddion ar gyfer eu maenoriaethau yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion y mae angen eu datrys i bobol Cymru.
“Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig blaid sy’n cyflwyno cynigion positif er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol mae Cymru’n eu hwynebu a thra bo eraill yn methu â gwneud, byddwn ni’n parhau i wneud y gwaith a datgloi potensial Cymru.”