Mae fersiwn newydd o ymdeithgan yr Urdd wedi cael ei chreu yn arbennig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, sy’n dechrau ymhen deng niwrnod.

Yn ôl yr Urdd, bydd elfennau o’r ŵyl ddigidol Eisteddfod T yn cael eu trosglwydd i’r Maes eleni, gan gynnwys newid i drefn y prif seremonïau a chael gwared ar ragbrofion yn llwyr.

Dywed y trefnwyr fod profiadau enillwyr Eisteddfod T dros y ddwy flynedd diwethaf wedi arwain at newidiadau eleni, gan gynnwys cynnig “llwyfan i bawb” yn lle’r rhagbrofion boreol arferol.

Bydd tri phrif enillydd yn cael eu gwahodd i’r llwyfan ar gyfer y prif seremonïau yn hytrach na dim ond yr enillwyr, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y fan a’r lle.

Mae’r buddugol ymhob rhanbarth wedi’u gwahodd i gystadlu ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Ond yn wahanol i’r arfer, fydd dim rhagbrofion i’r rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn Ninbych, a hynny er mwyn gwireddu uchelgais y trefnwyr fod pawb yn cael y profiad o gystadlu ar brif lwyfan yr Urdd.

O ganlyniad, mi fydd tri Phafiliwn ar faes yr Eisteddfod yn hytrach na un.

Fersiwn newydd o ‘Sain, Cerdd a Chân’

Bydd y fersiwn newydd o’r ymdeithgan ‘Sain, Cerdd a Chân’ yn cael ei chwarae yn y prif seremonïau.

Cafodd y gân ar ei newydd wedd ei chwarae ar raglen radio Huw Stephens ar Radio Cymru am y tro cyntaf neithiwr (nos Iau, Mai 19), a bydd hi’n cael ei chwarae fel Trac yr Wythnos yr wythnos nesaf (Mai 23).

Mae modd lawrlwytho’r gân ar yr holl blatfformau digidol yma: https://orcd.co/saincerddcan a fideo cerddoriaeth i’w mwynhau yma.

Mae wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn benllanw ar fisoedd o baratoi a chystadlu brwd miloedd o blant a phobl ifanc mewn dros 220 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth di-gynulleidfa ar hyd a lled Cymru dros y gwanwyn.

‘Dangos y gallu i addasu’

“Mae’r Urdd fel mudiad wedi dangos y gallu i addasu yn sgil Covid-19, ac roedd Eisteddfod T yn gyfle i edrych ar y ein cystadlaethau mewn ffordd hollol wahanol,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Gwelwyd apêl eang i rai elfennau o Eisteddfod T, ac o ganlyniad, penderfynwyd dewis a dethol ambell elfen o’r ŵyl ddigidol ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol.

“Mae’n ŵyl sy’n esblygu dros amser a dyna yw ei chryfder.”

Bydd y cystadlu yn cychwyn ben bore Llun, Mai 30, ac yn para trwy gydol yr wythnos tan ddydd Sadwrn, Mehefin 4.

Mae’r cystadlaethau’n amrywio o ddawnsio, canu a llefaru i goginio, celf a thrin gwallt.

Mynediad am ddim ac arlwy ychwanegol Gŵyl Triban

Bydd mynediad i Faes Eisteddfod yr Urdd yn rhad ac am ddim am yr eildro yn unig yn ei hanes, i ddathlu canmlwyddiant y mudiad.

Mae tocynnau mynediad ar gael i’w harchebu drwy wefan Eisteddfod yr Urdd (www.urdd.cymru/tocynnau) ac eleni maen nhw’n cynnig mwy nag erioed, gyda’r cystadlu, Gŵyl Triban, sioeau a holl adloniant y Maes yn rhan o’r tocyn.

Am y tro cyntaf erioed, ac i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru, bydd gŵyl o fewn gŵyl ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dyma fydd “aduniad mwyaf y ganrif”, gyda gwahoddiad i holl aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r Urdd ddod ynghyd i ddathlu ar Faes yr Eisteddfod.

Bydd mynediad i Triban (Mehefin 2-4) yn rhad ac am ddim ac yn gynwysedig yn y tocyn mynediad i Faes yr Eisteddfod.

Bydd yr ŵyl yn cynnig gwledd o fwyd a diod, cyfle i hel atgofion ynghyd â lein-yp i apelio at gynulleidfa eang o bob oedran, gan gynnwys Eden, Delwyn Sion, Tecwyn Ifan, Yws Gwynedd, Eädyth, Tara Bandito, N’Famady Kouyaté a llawer mwy.

Mae amserlen lawn o weithgareddau’r Maes ar gael drwy lawrlwytho ap yr Eisteddfod.