Mae cwmni Telynau Teifi wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhoi’r gorau iddi ar ôl 18 mlynedd.
Cafodd y fenter gymunedol ei sefydlu gan y gwneuthurwr telynau Allan Shiers yn 2004, mewn gweithdy mewn hen ysgol Fictorianaidd, lle’r oedd y tîm bach yn gwneud telynau â llaw.
Buodd yn gwneud telynau am fwy na 40 mlynedd a bu’n brentis i’r gwneuthurwr telynau, John Weston Thomas.
Ond fis Ebrill, cyhoeddodd y cwmni nad oedden nhw’n gallu cymryd archebion newydd rhagor.
Dywed y cwmni yn Llandysul y byddan nhw, “gyda thristwch mawr”, yn “rhoi’r offer i lawr am y tro olaf yr wythnos hon” oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth.
“Rydym yn falch iawn o’r offerynnau yr ydym wedi’u gwneud a’r cyfeiriadau newydd yr ydym wedi gwthio’r delyn fel offeryn traddodiadol Cymreig,” meddai’r cwmni ar Facebook.
“Hoffwn estyn diolch yn fawr iawn i’n holl ffrindiau, cwsmeriaid a chefnogwyr sydd wedi gwerthfawrogi ein hofferynnau.”
Cadw etifeddiaeth
Ond mae’r cwmni’n dweud bod angen cadw’r etifeddiaeth o wneud telynau yng Nghymru.
“Rydym wedi gwneud ein gorau glas i ddiogelu a chofnodi’r technegau traddodiadol a ddefnyddiwyd fel na fydd o leiaf etifeddiaeth ein sylfaenydd Allan Shiers yn cael ei golli,” meddai’r neges.
“Gobeithiwn yn fawr y bydd gwneuthurwyr newydd yn y dyfodol i barhau â’r etifeddiaeth hon.”
Mae cwsmeriaid a ffrindiau’r cwmni wedi bod yn rhannu eu hatgofion a’u diolch.
Dywed y delynores Bethan Nia nad yw hi’n gallu beirniadu’r gwasanaeth a dderbyniodd dros y blynyddoedd na “gwneuthurwyr y telynau sy’n canu mor brydferth, melys a chyfoethog”.
Ychwanegodd y gantores Georgia Ruth bod ei thelyn a wnaed ganddyn nhw wedi bod o amgylch y byd a’i bod ar y rhan fwyaf o’i halbymau.
“Mae wastad wedi bod rhywbeth mor arbennig am ei sŵn, ac am y cwmni,” meddai.
“Newyddion mor drist.
“Diolch am bopeth chi wedi gwneud”.