Mae’r arlunydd Rhys Padarn Jones, sy’n creu ei waith o dan yr enw Orielodl, wedi bod yn cydweithio â phlant o’r Barri i greu murluniau arbennig ar gyfer Gŵyl Fach y Fro sy’n cael ei chynnal yn y dref fory (dydd Sadwrn, Mai 21).

Dydy’r ŵyl, sy’n cael ei threfnu gan Fenter Iath Bro Morgannwg, ddim wedi cael ei chynnal ers dwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, ond mae hi’n dychwelyd eleni gyda chwip o amserlen gerddorol – MR, Bwncath, Papur Wal, Lily Beau, Hana Lili, Morgan Elwy a Huw Chiswell.

Yn gefnlen i’r cyfan fydd gweithiau celf gan blant lleol, dan arweiniad Rhys Padarn Jones, yn ceisio dal ysbryd y dref a’r ŵyl gan ddefnyddio cyfuniad o’i arddull adnabyddus a darluniau o’r hyn mae’r dref yn ei olygu i’r plant.

Sut, felly, mae dal ysbryd Gŵyl Fach y Fro ar gynfas?

“Ro’n i’n gwybod bach am yr ŵyl cyn hynny, achos bo fi wedi bod i Tafwyl cwpwl o weithiau ac yn gwybod fod Gŵyl Fach y Fro bach yn llai, ond gyda’r un math o naws,” meddai Rhys Padarn Jones wrth golwg360.

“Fi wedi bod i gwpwl o ysgolion lawr yn y Barri o’r blaen, ond ddim yn gyfarwydd iawn â’r ardal, so o’n i’n siarad â Manon o Fenter Bro Morgannwg jyst i gael syniad wrthi hi ac wedi cael fy nghyfeirio i’w gwefan nhw i weld cwpwl o luniau.

“Felly cael yr ysbrydoliaeth wnes i o edrych ar hen ffotograffau o’r gwyliau sydd wedi bod yno o’r blaen, a chael chat bach gyda nhw.

“Roedden nhw wedi dod ata’ i, fi’n meddwl, achos ro’n nhw’n gwybod fyddai steil fy lluniau i, o ran bod yn lliwgar ac yn dy wyneb di math o beth, y byddai rheiny yn gweithio’n eitha’ da.

“Ro’n i’n gwybod y byddai lot o faneri lliwgar, mae gyda ti’r sieds bach lliwgar ar y ffrynt fyddai’n gweithio’n dda a jyst cyfuno rheiny.

“Fi’n meddwl bod nhw’n moyn popeth i fod yn hapus, cael rhywbeth i godi calon fyddai’n edrych yn neis yn y cefndir os oedden nhw’n gallu dodi nhw lan, ond roedd sôn am ryw fath o faner yn cael ei gwneud fyddai tamaid bach yn fwy ymarferol o ran cael e lan ar y dydd.

“O ran fi, ro’n i’n trio chwilio rhywbeth hwyliog, digon o bethau i roi gwên ar wyneb rhywun wrth edrych ar y lluniau, a trio cael bach o amrywiaeth hefyd, rhywbeth fyddai’n apelio at bach o bawb.

“Ac roedd e’n neis cael y plant i gymryd rhan hefyd, fel unrhyw ŵyl, trio cael gymaint o bobol ti’n gallu o wahanol gefndiroedd i fwynhau ac i brofi rhywbeth gyda’i gilydd.

“Dyna oedd tu ôl y gweithdy hefyd, trio cyfuno ysgolion gwahanol, plant efallai fyddai ddim wedi dod ar draws ei gilydd o’r blaen, i ddod i weithio gyda’i gilydd ar baneli bach gwahanol.”

Creu’r paneli

Cafodd Rhys Padarn Jones y briff naill ai i greu un darn o waith celf neu gyfres o ddarnau gwahanol i’w rhoi at ei gilydd, a’r cyfan yn seiliedig ar ardal y Barri.

“Sai’n meddwl bod rhaid iddo fe fod yn benodol am yr ŵyl, ond yn amlwg, roedd yr ŵyl yn eitha’ ffocws iddo fe,” meddai.

“Dewisais i wneud sawl panel yn hytrach nag un achos, yn ymarferol, ti’n gallu ffitio un peth ar un panel heb fod eisiau iddo fe ffitio at rywbeth arall sydd wedi cael ei dorri’n rhannau gwahanol yn barod.

“Os wyt ti’n edrych ar rai o’r murluniau mwyaf sydd gyda fi, mae sawl panel yn mynd at ei gilydd fel jig-so i’w gwneud nhw.

“Mewn gŵyl, os wyt ti’n gallu’u rhoi nhw lan mewn unrhyw le, bydden i’n dychmygu bod eisiau lot o le arnat  ti ac mae eisiau rhyw ffordd o allu ffitio nhw at ei gilydd, so o’n i’n meddwl fyddai hwnna’n eitha’ caled iddyn nhw wneud.

“Dyna un o’r rhesymau pam wnes i rannu fe mewn i sawl llun neu syniad gwahanol, ond trio’u cadw nhw hefyd yn gyfres fyddai’n gallu edrych yn dda gyda’i gilydd tasen nhw mewn un lle canolog.

“Ond roedd rhaid bod y lluniau’n gwneud synnwyr ar ben eu hunain hefyd, a’i fod e’n ryw fath o gyfanwaith hefyd, a fi’n credu taw’r bwriad wedyn oedd, unwaith fyddai’r ŵyl drosodd, wnes i gynghori nhw i gael llun digidol ar ffeil fel bo nhw’n gallu defnyddio nhw ar bethau’n hwyrach, a fi’n credu taw dyna le gaethon nhw’r syniad o wneud rhyw fath o faner ar gyfer gwyliau’r dyfodol.”

Artist teithiol

Yn athro ysgol gynradd yn Abertawe wrth ei waith bob dydd, mae Rhys Padarn Jones wedi cymryd seibiant gyrfa am ddwy flynedd, gan fynd i weithio fel artist teithiol gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru.

Ar gyfer y prosiect hwn, fe gamodd yn ôl i’r dosbarth i gydweithio â saith ysgol i greu’r murluniau ar gyfer Gŵyl Fach y Fro.

“Byddan nhw’n cael y panel wnaethon nhw weithio fwyaf arno fe i fynd nôl i’w hysgol nhw,” meddai wedyn am waith y plant.

“Roedd hwnna yn fy mhen i, tasai e’n un darn mawr, fydden nhw ddim eisiau un darn o’r jig-so, bydden nhw eisiau jig-so cyfan, felly dyna pam roedd cael un llun penodol i bob panel yn fwy ymarfer ac yn gweithio’n well.

“Ond maen nhw’n edrych yn dda fel casgliad hefyd achos yr un math o liwiau sydd ynddyn nhw, yr un steil yw pob peth.

“O edrych arno fe gyda’i gilydd, byddet ti’n meddwl yn syth am Ŵyl Fach y Fro, ond wedyn mae’n dibynnu pa banel wyt ti’n cael fel ysgol, mae e hefyd yn gallu bod yn Ynys y Barri i rai ohonyn nhw achos mae gyda ti’r traeth neu’r ffair neu’r siediau lliwgar.”

Symud i ffwrdd o steil arferol Orielodl

Fel un sydd wedi dod yn adnabyddus am ddarlunio gan ddefnyddio geiriau caneuon neu ymadroddion fel rhan ganolog o’i waith, dim ond un panel sy’n cynnwys ysgrifen yn y prosiect hwn.

Fel yr eglura Rhys Padarn Jones, rheswm ymarferol sydd am hynny.

“Ro’n i’n gwybod fyddai chwech ysgol yn cymryd rhan, felly dyna’r chwech cyntaf wnes i heb eiriau.

“Doedden nhw ddim eisiau geiriau, roedden nhw eisiau lluniau lliwgar mawr ac roedd well gyda nhw beidio cael y geiriau, achos roedd e’n anodd meddwl am eiriau penodol fydden nhw’n mo’yn.

“Ac eto, achos bo nhw’n gwybod fydden nhw’n cael eu rhannu lan yn y pen draw ta beth, do’n nhw ddim eisiau bod ambell i air arno fe sydd ddim yn mynd gyda phopeth – efallai byddai’r geiriau’n cyfeirio at rywbeth sydd ddim yn y llun ar y panel yna.

“Fel arfer, mae gyda fi’r geiriau’n mynd trwy’r holl beth ond do’n i ffaelu cael hwnna neu fyddai hanner gair gyda rhywun.

“Ond wedyn achos gaethon ni seithfed ysgol, ro’n i’n meddwl fyddai’n rywbeth rhwydd i wneud cynllun fel’na yn glou iawn, a byddai hwnna’n un da i glymu popeth pan fyddai’r paneli i gyd gyda’i gilydd, bod gyda nhw’r teitl ‘Gŵyl Fach y Fro’ a hefyd, fel bod dim ysgol yn cael jyst ‘Gŵyl Fach y Fro’ arno fe, ro’n i’n gorfod meddwl am ryw fath o steil, felly dyna pam fod y tonnau yna hefyd i wneud iddo fe edrych fel rhywbeth mwy na dim ond teitl.

“Pan wyt ti’n gwneud llun ac yn gwybod bod yna ddim geiriau arno fe, mae eisiau i ti feddwl bod dim gormod o wagle gyda ti. Pan fi’n gwneud lluniau gyda geiriau, mae rhaid i fi wneud yn siŵr bod rhyw ran lle fi’n gwybod mai dyna’r patshyn neu’r lliw mae’r geiriau’n mynd i fynd arno.

“Weithiau mae’r lluniau fi’n gwneud yn gallu edrych yn wag tan bod y llythrennau yn mynd mewn ac unwaith maen nhw’n mynd mewn ar y diwedd, rheiny sy’n gwneud i’r lluniau sefyll ma’s fel tasai’r geiriau’n toddi mewn i’r cefndir fel bod pobol ddim yn sylwi weithiau bon hw yna.

“Diwrnod oedd gyda fi gyda’r plant, ac roedd angen diwrnod i wneud yr amlinelliad felly tasai ysgrifen ar bob un ohonyn nhw, byddai angen mwy na diwrnod arna’ i.

“Roedd e’n brofiad gwahanol, ond yn neis achos ro’n i’n gwybod, unwaith roedd y llun wedi’i wneud, roedd mwy o sgôp gyda’r plant wneud rhywbeth bach ychwanegol os oedden nhw eisiau heb dorri ar draws gwagle lle byddwn i wedi rhoi geiriau.”

Dychwelyd i’r dosbarth fel athro?

Dyma flwyddyn lawn gyntaf Rhys Padarn Jones yn gweithio fel arlunydd llawn amser, ar ôl iddo gymryd seibiant o’r dosbarth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr yn Abertawe, ac fe fydd yn parhau i deithio’r flwyddyn nesaf hefyd.

“Mae e wedi bod yn agoriad llygad,” meddai.

“Ac yn hollol wahanol i beth yw byd addysg, er bo fi’n gwneud lot fawr o bethau ysgolion.

“Fi yn yr ysgol bob wythnos ond beth sy’n neis yw bo fi’n mynd o un lle i’r llall, fi’n lico’r elfen o deithio a chael busnesan mewn ysgolion gwahanol, mynd i ardaloedd gwahanol, acenion gwahanol, plant o gefndiroedd gwahanol…

“Mae hwnna yn briliant.

Ond a fydd e’n dychwelyd i’r dosbarth?

“Sa i wedi troi ’nghefn ar ddysgu o gwbl,” meddai.

“Fi’n ffodus iawn bod yr ysgol yn cadw’r swydd i fie to tan ddiwedd blwyddyn nesa’, lle fi’n gorfod penderfynu wedyn a ydw i’n mynd ’nôl neu beidio.

“Fi’n ffeindio ar y funud, pan wyt ti’n gwneud y pethau creadigol yna yn yr ysgol, yn aml ti’n gwybod ar ôl hynny bo ti’n mynd i orfod mynd ’nôl i wneud dy lythrennedd di a dy rifedd di a phethau fel’na.

“Fi yn teimlo ar y funud bo fi fel bo fi’n cael gwneud y pethau da i gyd, heb wneud yr asesu a’r manion eraill!

“Mae’n neis gwneud prosiectau lle y’ch chi’n gwybod ar ddiwedd y dydd bo chi wedi gorffen y prosiect yna a bod yr ysgol neu bwy bynnag sydd gyda fi’n hapus a bo fi’n gallu mynd ymlaen i ddechrau rhywbeth bach newydd.

“Sa i’n gwybod a fydden i’n gallu gwneud beth fi’n gwneud nawr heb sgiliau athro achos, yn sicr, mae lot o’r rheoli ac o ran gwybod sut i gyfathrebu gyda’r plant o ystod oedran gwahanol hefyd yn sicr wedi dod o’r byd dysgu.

“Mae’n neis gallu mynd mewn i ysgolion gwahanol a gwneud cysylltiadau newydd, a mynd i ardaloedd o Gymru fydden i ddim wedi bod neu wedi treulio cymaint o amser yno o’r blaen.”