Bydd Liz Saville Roberts yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol Capel Edern, yn dilyn penderfyniad yr Eglwys Bresbyteraidd i’w gau.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 6 o’r gloch ar nos Fawrth, Mai 31, gyda’r Cynghorydd Gareth Tudor Jones, y Cynghorydd Sir lleol dros Forfa Nefyn, Edern a Thudweiliog, yn bresennol.
Cafodd Capel Methodistiaid Edern ei adeiladu yn 1775, ei addasu yn 1804 ac 1842 a’i ailadeiladu yn 1898.
Mae’n adeilad rhestredig Gradd 2 fel capel o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda thu mewn sydd wedi’i fanylu’n eithriadol.
Yn ôl Liz Saville Roberts, “mae Capel Edern yn gapel hanesyddol sy’n agos i galonnau llawer yn y gymuned leol”.
‘Chwilio atebion cadarnhaol’
“Yn anffodus, mae’r bwriad i’w gau yn arwydd o’r dynged sy’n wynebu llawer o gapeli eiconig Cymru nad yw eu pwrpas gwreiddiol fel man addoli bellach yn ddichonadwy,” meddai.
“Rydym wedi galw’r cyfarfod cyhoeddus hwn mewn ysbryd positif i archwilio atebion cadarnhaol ac ymarferol ar gyfer ddefnydd yr adeilad i’r dyfodol ac i ganfod y ffordd orau o sicrhau’r adeilad fel adnodd cymunedol.
“Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw adeiladau hanesyddol sydd wedi’u gwreiddio yn nhraddodiadau bywyd ym Mhen Llŷn yn cael eu cymryd allan o ddwylo pobl yn y gymuned.
“Rhaid i ni archwilio pob opsiwn a cheisio consensws ar sut i ddiogelu’r adeiladau arbennig hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae’n holl bwysig bod y gymuned leol yn cymryd perchnogaeth o unrhyw ymgyrch i sicrhau dyfodol Capel Edern o’r cychwyn cyntaf, a dyna pam rydym yn apelio ar y rhai sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o unrhyw apêl i leisio’u barn a mynychu’r cyfarfod hwn.”