Mae Wrecsam wedi ennill Statws Dinas fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî Platinwm.

Mae’n un o wyth lle yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ennill y statws, ynghyd â Bangor yng Ngogledd Iwerddon, Caer Colun (Colchester), Dinas y Garrai (Doncaster), Douglas ar Ynys Manaw, Dun Pharlain (Dunfermline) yn yr Alban a Milton Keynes, yn ogystal â Stanley ar Ynysoedd y Malfinas.

Daeth Wrecsam yn dref yn 1857 fel rhan o Siarter.

Dyma’r tro cyntaf ers degawd i lefydd newydd gael eu hystyried ar gyfer y Siarter ac am y tro cyntaf eleni, roedd llefydd sydd dan reolaeth Brenhines Lloegr y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gymwys ar gyfer y Statws.

Wyth yw’r nifer fwyaf o lefydd erioed sydd wedi cael y Statws ar yr un pryd, ac roedd gofyn eleni i ymgeiswyr ddangos pam fod eu cymunedau unigryw a’u hunaniaeth leol yn deilwng o’r Statws hwnnw, ac roedd disgwyl hefyd iddyn nhw gyfeirio at eu cysylltiadau brenhinol a’u treftadaeth ddiwylliannol.

Ymateb

Mae nifer o wleidyddion ac enwogion wedi bod yn ymateb i’r cyhoeddiad.

Yn eu plith mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwlad Cymru.

“Mae gan Wrecsam hanes rhyfeddol a dyfodol cyffrous, ac rwyf wrth fy modd o’i gweld yn derbyn Statws Dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines,” meddai.

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi’n “wych” gweld y Statws yn dod i’r dref lle cafodd ei geni.

Mae’r Aelod Seneddol Llafur Jo Stevens o Gaerdydd wedi tynnu sylw at gyfnod mawr i ddod i’r ddinas newydd.

“Llongyfarchiadau Wrecsam ar ennill statws dinas. Maen nhw’n dweud bod pethau da yn dod mewn triawdau; gobeithio am ddyrchafiad i @Wrexham_AFC ac ennill Dinas Diwylliant nesaf.”