Gwyn Nicholas o Lanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin yw enillydd Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams eleni.

Caiff y Fedal ei chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc.

Mae’r enillydd eleni wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobol ifanc yn ei filltir sgwâr dros gyfnod o hanner canrif a mwy.

Rheolwr taliadau yn y Gwasanaeth Iechyd oedd Gwyn Nicholas wrth ei waith, ond byddai’n treulio’i amser hamdden yn cyfeilio a beirniadu mewn eisteddfodau cefn gwlad ar hyd a lled Cymru, gyda’i gariad at gerddoriaeth yn amlwg i bawb.

Mae’n adnabyddus fel arweinydd corawl a chynulleidfaol, yn arwain ysgolion cân a chymanfaoedd canu, ac yn fwyaf oll, mae’n gyfarwydd i’r rhan fwyaf fel arweinydd Côr Llanpumsaint, a fe sydd wedi sicrhau eu bod nhw wedi cystadlu a theithio llawer iawn dros y blynyddoedd

Mae llawer o’i waith yn digwydd yn dawel di-ffws, gyda’r enwebiad ar gyfer y Fedal hon yn sôn am yr “oriau dirifedi gwirfoddol mae Gwyn wedi’u rhoi i ieuenctid a cherddoriaeth, yr oriau o drosi cerddoriaeth o’r Hen Nodiant i Sol-ffa, a threfnu caneuon a chyfansoddi emynau”.

Mae ei gyfraniad a’i waith wedi dylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc yn lleol, yn eu helpu gyda gwaith theori cerddoriaeth, eu dysgu i chwarae’r piano a chanu.

Yn unigolion, partïon neu gorau, mae Gwyn Nicholas wedi cefnogi cannoedd o bobol ifanc ei fro dros y blynyddoedd.

Yn annog corau Ysgol Bro Myrddin, neu’n helpu i roi sglein ar berfformiadau clybiau ffermwyr ifanc yr ardal cyn cystadlaethau a chynorthwyo yn ysgol gynradd Llanpumsaint, mae e bob amser yn hael gyda’i gyngor ac yn barod ei gymwynas.

Yn ddi-os, mae’i brwdfrydedd a’i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr TH Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni, meddai’r Eisteddfod.

Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, cafodd cronfa ei sefydlu i goffáu ei gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.

Bydd Gwyn Nicholas yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron, sy’n cael ei chynnal o Orffennaf 30 tan Awst 6.