Mae Plaid Cymru yn dweud bod angen chwyldro yn y maes iechyd a gofal er mwyn mynd i’r afael ag amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd.

Daw hyn wedi i amseroedd aros diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael eu cyhoeddi, a’r rheiny yn datgelu nad yw targedau’n cael eu cyrraedd yng Nghymru.

Yn ôl Plaid Cymru, y gofid mwyaf yw amseroedd ymateb ambiwlansys, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn methu cyrraedd y targed o 40% ar gyfer amseroedd ymateb o wyth munud.

Ar ben hynny, mae’r amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys wedi cyrraedd yr ail hiraf ar gofnod, sef tair awr a dwy funud.

Er bod diagnosis a thriniaethau canser wedi gwella ers mis diwethaf, mae llawer o welliant i’w wneud o hyd o ran effeithlonrwydd i gleifion canser.

Ymhlith y newidiadau yr hoffai Plaid Cymru eu gweld yn cael eu cyflwyno mae mesurau ataliol, gwell gofal cymdeithasol i helpu i ryddhau cleifion, buddsoddi yn y gweithlu, a chanolfannau diagnostig a thriniaeth benodol.

 ‘Parhau i droi mewn cylchoedd’

“Wrth ystyried maint y problemau o fewn y Gwasanaeth Iechyd, boed hynny’n amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth neu oedi mewn ambiwlansys, mae’n rhaid i ni feddwl am y system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru.

“Mae llif y cleifion trwy’r system yn aneffeithlon ac mae diffyg capasiti i ddelio â’r galw.

“Er mwyn delio â’r galw, mae’n rhaid gweld newid chwyldroadol mewn agweddau tuag at fesurau iechyd ataliol.

“Er mwyn gwella llif cleifion mae’n rhaid i ni gryfhau gofal cymdeithasol.

“Ac er mwyn delio â chapasiti, rhaid inni gyflymu’r buddsoddiad mewn gweithlu ac mewn mesurau penodol fel canolfannau diagnostig a thriniaeth y gellir eu diogelu rhag pwysau brys.

“Heb hyn i gyd, byddwn yn parhau i droi mewn cylchoedd.”

‘Allith hyn ddim parhau’

“Yn syml, allith hyn ddim parhau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfydol yng Nghymru, wrth ymateb.

“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaeth ambiwlans yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ond mae bywydau pobol mewn perygl pan fo amseroedd ymateb ambiwlansys mor wael.

“Wythnos ar ôl wythnos rwy’n clywed straeon am bobol yn aros oriau am ambiwlans, oriau am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a hyd yn oed yn cael eu trin yng nghefn ambiwlansys y tu allan i’n hysbytai.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu dro ar ôl tro i fynd i’r afael â’r argyfwng yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”