Mae Catalwnia yn awyddus i ddenu Cwpan Ryder, cystadleuaeth golff fwya’r byd, i ddinas Caldes de Malavella yn 2031.

Hon yw’r gystadleuaeth golff fwyaf yn y byd, wrth i Ewrop herio’r Unol Daleithiau.

Roedd Catalwnia dan ystyriaeth yn 2015 i gynnal y gystadleuaeth eleni, sydd wedi’i dyfarnu i Rufain ac a fydd yn cael ei chynnal yno y flwyddyn nesaf.

Yn ôl adroddiadau, mae Llywodraeth Sbaen yn barod i fuddsoddi 96m Ewro ar gyfer y cais, tra bod disgwyl i awdurdod lleol Girona gyfrannu 4m Ewro yn ychwanegol.

Cwpan Ryder yw’r trydedd gystadleuaeth chwaraeon fwyaf poblogaidd yn y byd ar ôl Cwpan Pêl-droed y Byd a’r Gemau Olympaidd.

Er bod cymdeithas golff PGA Catalunya yn barod i gynnal y digwyddiad, yr awdurdodau gwleidyddol fydd yn cael y gair olaf ar y cais, ac mae disgwyl i’r Arlywydd Pere Aragonès gyfarfod â Guy Kinnings, Llywydd Cwpan Ryder, yn ystod yr wythnosau i ddod.

Yn ôl amcangyfrifon, mae 270,000 o bobol o 90 o wledydd yn heidio i Gwpan Ryder, ac mae’n cael ei darlledu i 180 o wledydd ar draws y byd, ac mae lle i gredu y gallai ddenu 570m Ewro i’r economi yn uniongyrchol, a 590m Ewro yn rhagor drwy’r sector twristiaeth.

Y cais a chynnal digwyddiadau mawr

Byddai’r cais i gynnal Cwpan Ryder yn 2031 yn cael ei rannu â Costa Brava.

Ond mae’r brifddinas Barcelona yn awyddus i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr y byd chwaraeon yn dilyn y pandemig.

Yn 2024, bydd y ddinas yn cynnal Cwpan America, y gystadleuaeth hwylio fawr.

Mae’r ddinas hefyd yn rhan o gais i ddenu Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2030, ond does dim sicrwydd ynghylch y cais eto, gan fod angen i drigolion y Pyrenées gydsynio mewn refferendwm i rannu’r cais gyda rhanbarth Aragon.