Mae adroddiadau bod gŵr busnes sydd wedi ennill ei ffortiwn o gloddio aur a diemwntiau ym Mrasil, yn ystyried cyflwyno cais i brynu Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’r wefan The72 yn dweud bod adroddidau gan OLIBERAL ym Mrasil y gallai’r clwb gael ei werthu gan yr Americanwyr Steve Kaplan a Jason Levien yn yr haf.

Mae Rodrigues eisoes yn berchen ar glwb Clube de Remeo, sy’n chwarae yn nhrydedd adran cynghreiriau Brasil, ac mae lle i gredu ei fod e’n barod i dalu 40m Ewro i brynu’r Elyrch.

Yn ôl y sôn, mae e hefyd yn bwriadu ailfrandio’r clwb, ac mae’n dweud y bydd e’n cyhoeddi rhagor o gynlluniau’n fuan.

Fe fu perchnogion presennol Abertawe dan y lach dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers iddyn nhw ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth, a hynny am fod cefnogwyr yn teimlo na fu digon o fuddsoddiad mewn chwaraewyr.

Maen nhw hefyd wedi colli chwaraewyr allweddol bron bob tymor ers y gwymp, a’r gred yw y gallen nhw golli rhagor yr haf yma wrth iddyn nhw barhau i geisio rheoli eu sefyllfa ariannol.

Dydy Clwb Pêl-droed Abertawe ddim am wneud sylw am yr adroddiadau, meddai llefarydd wrth golwg360.