Mae’r Cymro Mark Delaney wedi gadael ei rôl fel hyfforddwr gydag Academi Clwb Pêl-droed Aston Villa, lle bu’n gweithio ers 2008.

Fe ymunodd e â staff y clwb ar ôl i’w yrfa fel chwaraewr ddod i ben.

Chwaraeodd e 193 o weithiau i’r clwb, gan ennill 36 o gapiau dros Gymru.

Yn fwyaf diweddar, fe fu’n gweithio fel Hyfforddwr Datblygu Proffesiynol y tîm dan 23.

Daeth ei awr fawr ar ymyl y cae pan gafodd e’r cyfle i fod yn rheolwr ar dîm ifanc Aston Villa yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan FA Lloegr y tymor diwethaf, pan oedd y garfan arferol yn hunanynysu oherwydd Covid-19.

Mae’r clwb wedi diolch iddo am ei wasanaeth, ac wedi dymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol.