Mae Clwb Criced Bae Colwyn yn dweud y bydd eu gemau’r penwythnos hwn yn mynd yn eu blaenau, er gwaethaf tân mawr yn y cae.

Mae tri o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn yr hyn mae’r heddlu’n credu sy’n dân bwriadol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r clwb fore ddoe (dydd Gwener, Mai 20).

Chafodd neb anafiadau, ond cafodd Pafiliwn Te y clwb ei ddinistrio’n llwyr, meddai’r clwb ar Twitter.

Daw hyn yn dilyn sawl achos o fandaliaeth yn yr ardal yn ddiweddar.

Mae ymchwiliad ar y gweill.