Mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dweud nad oes “unrhyw le arall ym Mhrydain sydd yn haeddu Statws Dinas yn fwy na Wrecsam”.

Mae’r Gymraes, sydd â’i thad yn hanu o ddinas fwyaf newydd Cymru, wedi dod adref y penwythnos hwn wrth i’r tîm pêl-droed baratoi i herio Bromley yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr yn Wembley heddiw (dydd Sul, Mai 22).

Mae Wrecsam eisoes yn llygadu dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed, gyda’r gemau ail gyfle hollbwysig i ddod, ac mae’n bosib hefyd y gallen nhw ennill teitl Dinas Diwylliant 2025 ar ôl cyrraedd y rhestr fer.

“Dw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw le arall ym Mhrydain, rili, sydd yn haeddu beth sydd wedi digwydd yn fwy na Wrecsam,” meddai wrth golwg360 cyn iddi hedfan yn ôl ar gyfer y gêm fawr yn Llundain.

“Dw i’n meddwl mae Wrecsam yn lle bach, dinas rŵan, sydd gyda chalon enfawr ac rydan ni wedi gweld y galon yna’n tyfu a tyfu dros y flwyddyn diwethaf, fel rydan ni’n gweld, dim jyst gyda’r pêl-droed ond y gymuned, yr iaith Gymraeg a phopeth yn digwydd dros yr ardal a’r dref.

“Mae wedi bod yn anhygoel i fod yn rhan o’r stori, a dw i’n gwerthfawrogi’r ffaith fod o wedi digwydd a dw i’n meddwl fydd o’n rywbeth mawr iawn i bobol Wrecsam a gogledd Cymru achos, fel mae pawb yn gwybod, fi’n dod o ogledd Cymru ac felly, mae unrhyw beth sy’n digwydd i roi gogledd Cymru ar y map fel hyn yn grêt i fi ac yn rywbeth dw i’n ei gefnogi.”

Yr ymateb yn yr Unol Daleithiau

A hithau’n byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau, sut ymateb sydd wedi bod yno i’r newyddion am Statws Dinas Wrecsam, o gofio bod cysylltiad agos rhyngddyn nhw ers i’r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb pêl-droed?

“Mae yna dipyn o Gymry draw fan hyn, rydan ni i gyd, wrth gwrs, yn gyffrous ac yn hapus am y newyddion.

“A dw i’n siŵr fydd pobol yn Los Angeles yn hapus hefyd.

“Mae Rob wedi siarad am hyn o’r blaen, roedd rhywun wedi gofyn i Rob o’r blaen am y cwestiwn o Wrecsam yn dod yn ddinas, ac roedd o’n gefnogol iawn.

“Felly dw i’n siŵr fydd y ddau ohonyn nhw’n hapus iawn.

“Wrth gwrs, mae’n codi proffil Wrecsam ac mae’n rywbeth arall i godi proffil y clwb ac mae hwnna’n rywbeth sydd yn grêt ac yn rywbeth rydan ni gyd isio.

“Mae’r clwb yn gwneud mor dda.

“Dw i’n rili excited i fynd i Wembley ddydd Sul, ac hefyd wrth gwrs i’r play-offs.

“Does dim byd ond dyfodol positif i Wrecsam rŵan, ac i’r clwb.”

Gobeithion yn Wembley

Ydy Maxine Hughes, felly, yn obeithiol y gall Wrecsam ennill yn Wembley?

“Bendant! Rydan ni’n mynd i mewn i bob gêm yn gobeithio ein bod ni’n mynd i ennill, a dyna yw’r clwb a’r gymuned yma, sydd yn grêt i fi.

“Mae’n ardal ac yn glwb sydd wedi dioddef lot, ond maen nhw’n dal mor bositif, mae dal teimlad yma o fod yn unedig ac mae hwnna’n grêt.

“Dw i’n meddwl rydan ni i gyd yn obeithiol ar gyfer dydd Sul.

“Dw i’n hedfan drosodd fore Sadwrn, felly dw i’n excited iawn i hedfan drosodd, i fynd yna ac i fod yna, jyst i allu bod yna gyda’r ffans i gyd.

“Mae wastad yn ffantastig.

“Mae fy nhad yn dod o Wrecsam, felly bob tro dw i ddim yn Wrecsam ond jyst gyda phobol o Wrecsam, dw i’n teimlo fel bo fi adre.”

Statws Dinas i Wrecsam fel rhan o’r Jiwbilî Platinwm

Mae’n un o wyth lle sydd wedi ennill y statws