Fe fu’n wythnos fawr i Wrecsam yr wythnos hon.

Daeth y newyddion ddiwedd yr wythnos fod Wrecsam bellach yn ddinas, ac mae eu clwb pêl-droed yn creu argraff ar y cae y tymor hwn hefyd.

Ar ôl y siom o golli allan ar ddyrchafiad awtomatig yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed ar ôl iddyn nhw orffen yn ail y tu ôl i Stockport yn y Gynghrair Genedlaethol, mae ganddyn nhw gyfle arall i ddychwelyd ar ôl 14 mlynedd, a hynny drwy’r gemau ail gyfle.

Ond cyn hynny, mae ganddyn nhw daith i Wembley heddiw (dydd Sul, Mai 22) i herio Bromley yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr (4.15yp).

Enillodd Wrecsam y gystadleuaeth hon ddiwethaf yn 2013, a dyma ail ymddangosiad Bromley, oedd wedi colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Brackley yn 2018.

Mae gan dîm Phil Parkinson record dda yn erbyn Bromley y tymor hwn, gyda gêm ddi-sgôr yn dod â’u rhediad di-guro o bum gêm i ben ym mis Mawrth, ar ôl eu curo nhw o 2-0 yn gynharach yn y tymor.

Yn y gystadleuaeth hon, mae Wrecsam eisoes wedi curo Caerloyw, Folkestone, Boreham Wood, Notts County a… neb llai na Stockport!

Awyrgylch ac ymateb

Does “dim unrhyw le arall ym Mhrydain sydd yn haeddu Statws Dinas yn fwy na Wrecsam”

Alun Rhys Chivers

Mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes adref o’r Unol Daleithiau ar benwythnos mawr i ddinas newydd Cymru a’i chlwb pêl-droed