Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, yn dweud bod y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi rhoi hwb i’r chwaraewyr wedi’r golled o 1-0 yn erbyn Bromley yn Nhlws FA Lloegr yn Wembley ddoe (dydd Sul, Mai 22).

Collodd Wrecsam yn sgil gôl Michael Cheek yn yr ail hanner, a hynny ar ôl colli allan o drwch blewyn ar ddyrchafiad awtomatig yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed, er y bydd ganddyn nhw gemau ail gyfle i geisio gwireddu’r freuddwyd.

Bydd Wrecsam yn herio Notts County neu Grimsby ddydd Sadwrn (Mai 28).

“Dyma dymor cyntaf llawn y perchnogion, a natur y diwydiant yw na all fynd eich ffordd eich hun i gyd,” meddai Phil Parkinson wrth y BBC.

“Maen nhw wedi’u siomi, ond maen nhw i mewn yno’n codi’r tîm a byddwn ni’n barod ar gyfer yr wythnos nesaf.

“Pob clod iddyn nhw oherwydd maen nhw wedi bod yn wych gyda’r bechgyn a fi fy hun.”

Taro’n ôl

“Does neb eisiau dod i Wembley a pheidio ennill,” meddai wedyn.

“Fe gawson ni gefnogaeth wych, a dw i’n teimlo dros y cefnogwyr a’n holl deuluoedd a ffrindiau, ond ar yr un pryd mae’n rhaid i ni anghofio am y siom yma’n gyflym.

“Ar y bws adref, mae’n mynd i fod yn dawel, ond unwaith awn ni’n ôl i ymarfer yr wythnos hon, byddwn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar ddydd Sadwrn nesaf.”

Cydnabyddiaeth i Cled

Yn y cyfamser, roedd cydnabyddiaeth yn Wembley i Cledwyn Ashford, un o hoelion wyth Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Ar yr egwyl, aeth ‘Cled’ i’r cae i dderbyn plac yn rhodd am ei waith yn datblygu to iau’r clwb.

Mae’n cydweithio’n agos â Dan Nolan, Rheolwr y Ganolfan Ragoriaeth, wrth iddyn nhw ddod o hyd i chwaraewyr y dyfodol.

Yn gyn-athro, mae’n parhau i weithio gyda bechgyn ar draws y gogledd.

Mae’r clwb wedi ei longyfarch ar bopeth mae e wedi’i gyflawni yn y gêm.