Mae Wes Burns (Ipswich) ac Oliver Denham (Caerdydd) wedi cael eu hychwanegu at garfan bêl-droed Cymru cyn eu gêm ail gyfle yng Nghwpan y Byd a gemau Cynghrair y Cenhedloedd.

Dydy Oliver Denham, amddiffynnwr 20 oed, heb ennill ei gap cyntaf dros Gymru eto.

Mae Nathan Broadhead, sydd ar fenthyg gyda Sunderland o Everton, wedi gorfod tynnu’n ôl o’r garfan oherwydd anaf.

Dyma oedd y tro cyntaf i’r ymosodwr 24 oed o Fangor gael ei gynnwys yn y garfan.

Bydd tîm Robert Page yn wynebu’r Alban neu Wcráin yng Nghaerdydd ar ddydd Sul, Mehefin 5 wrth iddyn nhw geisio ennill eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Byddan nhw hefyd yn herio Gwlad Pwyl ar Fehefin 1, yr Iseldiroedd ar Fehefin 8 ac 14, a Gwlad Belg ar Fehefin 11.

Y garfan

Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies

Amddiffynwyr: Ben Davies, Joe Rodon, Chris Mepham, Chris Gunter, Rhys Norrington-Davies, Connor Roberts, Neco Williams

Canol cae: Joe Allen, Joe Morrell, Ethan Ampadu, Matthew Smith, Aaron Ramsey, Dylan Levitt, Sorba Thomas, Rubin Colwill, Harry Wilson, Jonny Williams, Brennan Johnson

Ymosodwyr: Gareth Bale, Dan James, Mark Harris, Kieffer Moore, Rabbi Matondo

Crys coch, a logo'r Gymdeithas Bel-droed ar y frest

Wyneb newydd yng ngharfan bêl-droed Cymru ar drothwy gêm fawr

Nathan Broadhead, sydd ar fenthyg yn Sunderland o Everton, yw’r unig chwaraewr heb gap yn y garfan ar gyfer gêm ail gyfle Cwpan y Byd