Nathan Broadhead yw’r unig wyneb newydd yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gêm ail gyfle Cwpan y Byd fis nesaf, a phedair gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae’r ymosodwr yn chwarae i Sunderland, ar fenthyg o Everton, ac wedi sgorio 13 gôl y tymor hwn, a fe yw’r unig chwaraewr heb gap yng ngharfan Rob Page.

Mae Wayne Hennessey, Chris Gunter a’r capten Gareth Bale i gyd wedi’u cynnwys fel triawd sydd wedi ennill dros gant o gapiau dros eu gwlad, ac mae Ben Davies, Joe Allen ac Aaron Ramsey wedi ennill cyfanswm o dros 200 o gapiau rhyngddyn nhw.

Bydd Cymru’n herio’r Alban neu Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 5, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ac ar ôl curo Awstria o 2-1 yn y gêm gyn-derfynol ym mis Mawrth.

Mae’r garfan yn un brofiadol, a byddan nhw’n chwarae pedair gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd – Gwlad Pwyl oddi cartref ar Fehefin 1, cyn croesawu’r Iseldiroedd (Mehefin 8) a Gwlad Belg (Mehefin 11), cyn teithio i’r Iseldiroedd ar Fehefin 14.