Bydd tîm criced newydd Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) yn helpu i sicrhau bod mwy o gricedwyr o’r gogledd yn gallu camu i fyny i dîm llawn Cymru, yn ôl Pennaeth Llwybrau Talent Criced Cymru.

Fe fu Matt Thompson yn siarad â golwg360 ddyddiau’n unig ar ôl i’r tîm newydd chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Cumbria ddydd Mawrth (Mai 17), gan golli o 132 o rediadau, ac mae’n dweud bod daearyddiaeth yn bwysicach na chanlyniadau ar hyn o bryd.

“Wrth gwrs ein bod ni eisiau ennill wrth gyrraedd y safon yma o griced, sy’n griced difrifol, gyda llaw,” meddai.

“Wrth gwrs, pan fo chwaraewyr yn rhoi o’u hamser ac yn gweithio ac yn teithio cryn dipyn, mae yna elfen o fod eisiau ennill.

“Dyma flwyddyn gynta’r tîm hwn, a dw i’n credu mai’r nod i bawb sy’n rheoli yn y lle cyntaf yw sicrhau ei fod yn weithredol ac yn gweithio o ran logisteg.

“P’un a fydd y bois yn llwyddo i ennill neu’n colli pob un gêm o hyn ymlaen, dw i’n credu mai’r peth pwysicaf yw fod y tîm hwn yn sefydlog yn ariannol yn y tymor hir.”

O ran y ddaearyddiaeth, mae’n gobeithio y gall y tîm newydd hwn bontio’r bylchau rhwng y de a’r gogledd.

“Mae gennym ni her yng Nghymru ynghylch daearyddiaeth, ac mae angen bod tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru wedi’i leoli o amgylch y wlad,” meddai wedyn.

“Dydy e ddim wedi cynrychioli rhai rhannau o Gymru yn y gorffennol, ac mae’n siŵr mai ein bai ni yw hynny.

“Yn hanesyddol, fe fu’n eithaf anodd mesur safon y criced yn y gogledd o’i gymharu â’r de oherwydd, oni bai eich bod chi’n herio’ch gilydd mewn cystadlaethau, dydych chi ddim wir yn gweld sut mae’r batiwr gorau o’r gogledd yn edrych o’i gymharu â’r gorau o orllewin Cymru.”

Tîm datblygu

Un o’r rhai sy’n bennaf gyfrifol am redeg y tîm, ac a ddatblygodd y syniad, yw’r rheolwr Russell Penrhyn-Jones a’r bwriad oedd creu tîm datblygu i fwydo Siroedd Cenedlaethol Cymru, yn ôl Matt Thompson.

“Mae’n ceisio cynnig carreg gamu yn y fan honno i’r cricedwyr gorau yn y gogledd gael rhoi eu hunain yn ffenest y siop a hawlio’u lle yn nhîm Siroedd Cenedlaethol Cymru,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi hefyd yn bwysig bod y gemau’n cael eu cynnal ar draws y gogledd,” meddai.

“Dechreuon ni ein gemau ugain pelawd T20 ym Mangor, ac rydyn ni i lawr yn Llanbed rywbryd yn yr haf, hyd yn oed.

“O ran y ddau dîm [Siroedd Cenedlaethol Cymru a Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd)], mae yna reidrwydd i sicrhau ein bod ni’n gwasgaru’r criced gorau gallwn ni a lle bo hynny’n bosib ac yn briodol.

“Rydyn ni ym Mhorthaethwy, yn Llanelwy, ym Mangor a sawl lle arall yn y gogledd, felly gobeithio bod gennym ni ddigon o drawstoriad o ardaloedd.”

Diffyg gogleddwyr yn y gorffennol

Os yw hi’n bosib dod o hyd i gricedwyr o’r gogledd sy’n ddigon da i chwarae i dîm Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) erbyn hyn, pam nad yw hyn wedi digwydd cyn eleni?

“Yn hanesyddol, tan y blynyddoedd diwethaf, mae e wedi cael ei redeg gan wirfoddolwyr,” meddai Matt Thompson.

“Dyna sut mae’r rhan fwyaf o dimau Siroedd Cenedlaethol yn gweithio, a dw i ddim yn credu, er cymaint rydych chi eisiau iddo fe ddigwydd, does dim cymaint o ymwybyddiaeth ar hyd a lled y wlad ag y dylai fod.

“Roedd llawer o’r bobol oedd ynghlwm wrth Siroedd Llai Cymru wedi’u lleoli yn y de, ac mae’n dipyn o beth gofyn i wirfoddolwyr symud o amgylch i wylio’r criced sy’n digwydd ym mhob cwr o Gymru, sy’n uffar o ymrwymiad.

“Dw i ddim yn meddwl bod bai ar neb, a dyna natur sut cafodd y peth ei sefydlu, ond dw i’n credu y bydd y tîm yma yn y gogledd, yn y dyfodol, yn ein galluogi ni, pe bai rhywun yn cipio pum wiced yn erbyn tîm cryf Swydd Stafford neu Cumbria neu Sir Amwythig, i gael ffon fesur lawer gwell i edrych ar ba mor agos mae’r chwaraewyr hyn at guro ar y drws.”

Bwydo Morgannwg

Er bod Clwb Criced Morgannwg yn pwysleisio o hyd mai’r nod i gricedwyr ar lefel Siroedd Cenedlaethol Cymru yw cynrychioli Morgannwg ar y lefel sirol yn y pen draw, nid dyma’r brif nod, o reidrwydd, i gorff Criced Cymru.

“I ni sydd ynghlwm wrth griced ar y Llwybrau, dyna’r uchelgais ‘seren aur’ wrth gwrs, ac wrth gwrs fod y Siroedd Cenedlaethol yn chwarae rôl bwysig wrth gynnig carreg gamu i gricedwyr o’r Academi a chricedwyr ifainc y dyfodol i ddilyn gyrfa yn y gêm,” meddai.

“Mae’n rhan bwysig o’r hyn mae’r Siroedd Cenedlaethol yn ei wneud, ond y rhan arall yw ei fod yn lle ar gyfer pobol 27, 28 neu 30 oed sy’n gricedwyr da iawn ar lefel y clybiau ac sydd eisiau chwarae’r criced hamddenol gorau posib ar lawr gwlad.

“Fyddwn i ddim yn dweud bod y cyfan er mwyn creu cricedwyr i Forgannwg, ond bydd y tîm newydd yng ngogledd Cymru ac wedyn prif dîm Siroedd Cenedlaethol Cymru’n bwysig ar hyd y Llwybrau, os liciwch chi, os ydych chi’n gricedwr ifanc yn y gogledd sydd am symud ymlaen yn y ffordd yma. Mae’n chwarae rhan bwysig yn hynny.”

Chwaraewyr i’w gwylio

Pwy, felly, yw’r chwaraewyr i’w gwylio y tymor hwn?

Dau sydd wedi dal sylw’r dewiswyr eisoes, yn ôl Matt Thompson, yw Jason Foulkes ac Owen Reilly.

Cipiodd Foulkes dair wiced am 18 yn eu gêm ugain pelawd mewn gêm baratoadol yn erbyn Swydd Buckingham yn ddiweddar, tra bod Reilly wedi cipio tair wiced am 45 mewn deg pelawd yn erbyn Cumbria.

“Mae’r ddau wedi chwarae i brif dîm Cymru eisoes y tymor hwn, felly dw i’n meddwl bod gennym ni dystiolaeth eisoes ein bod ni’n taflu’r rhwyd yn ehangach a bod gennym ni fwy o lygaid mewn mwy o lefydd ar draws y wlad,” meddai Pennaeth y Llwybrau Talent.

“Fydd hynny ddim ond yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd, a dyna brif ddiben hyn i gyd.

“Mae gan Jason Foulkes o Lanelwy record dda yng nghynghrair gogledd Cymru, a doedd e ddim yn edrych allan o’i ddyfnder ar y lefel Siroedd Cenedlaethol. Fyddwn i ddim yn ei warantu fe, ond byddwn i’n fodlon betio y gwelwn ni fe eto yn ystod yr haf.

“Mae Owen Reilly yn un arall, fwy na thebyg. Fe welson ni Owen yn gynharach yn yr haf pan chwaraeodd Criced Cymru yn erbyn yr MCC yn Lord’s ym mis Ebrill, nid mewn gêm i Griced Cymru ond i dîm drwy wahoddiad.

“Cipiodd Owen bum wiced yn Lord’s, sy’n gwneud dim niwed iddo fe o gwbl yn nhermau dangos i ni beth mae e’n gallu’i wneud o safbwynt bowlio.

“Dyna’r ddau sy’n dod i feddwl ar unwaith i gadw llygad arnyn nhw, ond dyna bwrpas y gemau hyn, i dîm y gogledd ac i’r bois sy’n chwarae yn y gemau hynny i sgorio rhediadau, cipio llawer o wicedi a rhoi ambell ben tost i ni fel dewiswyr Siroedd Cenedlaethol Cymru.”