Dan Biggar, ac nid Alun Wyn Jones, sydd wedi’i enwi’n gapten ar gyfer taith rygbi Cymru i Dde Affrica ym mis Gorffennaf.

Fe fu’r maswr yn gapten ar y garfan ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn absenoldeb y chwaraewr ail reng, ac mae’n cael parhau â’i ddyletswyddau dros yr haf.

Mae George North a Dan Lydiate hefyd yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn anafiadau, ac yn ymuno â nhw o ranbarth y Gweilch mae Sam Parry, gyda’r ddau Scarlet Johnny Williams a Rhys Patchell hefyd wedi’u cynnwys.

Mae dau chwaraewr heb gap yn y garfan, sef James Ratti o Gaerdydd a fu’n aelod o garfan y Chwe Gwlad, a Tommy Reffell (Leicester Tigers) sydd yn y garfan am y tro cyntaf.

Bydd y prawf cyntaf yn Loftus Versfeld yn Pretoria ar Orffennaf 2, yr ail brawf yn Bloemfontein wythnos yn ddiweddarach (Gorffennaf 9) a’r prawf olaf yn Cape Town ar Orffennaf 16.

Y tro diwethaf i Gymru herio De Affrica, yn Stadiwm Principality Caerdydd, oedd hydref y llynedd, gyda’r ymwelwyr yn fuddugol o 23-18.

Y garfan

Olwyr: L Williams, L Rees-Zammit, A Cuthbert, J Adams, J Williams, O Watkin, N Tompkins, G North, R Patchell, D Biggar, G Anscombe, T Williams, K Hardy, G Davies.

Blaenwyr: R Carre, W Jones, G Thomas, R Elias, D Lake, S Parry, L Brown, T Francis, D Lewis, A Beard, B Carter, AW Jones, W Rowlands, T Basham, T Faletau, D Lydiate, J Navidi, J Ratti, T Reffell.