Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, yw prif hyfforddwr newydd tîm criced undydd Lloegr.

Wrth lofnodi cytundeb pedair blynedd, mae’n ymuno â Brendon McCullum, cyn-chwaraewr tramor Morgannwg, sydd wedi’i benodi’n brif hyfforddwr y tîm mewn gemau prawf.

Mae disgwyl i Mott, oedd wrth y llyw pan gyrhaeddodd Morgannwg rownd derfynol y gystadleuaeth 40 pelawd yn Lord’s yn 2013, fod yn ei swydd erbyn i Loegr herio’r Iseldiroedd mewn cyfres o dair gêm 50 pelawd fis nesaf.

Cafodd ei benodi’n unfrydol gan y panel cyfweld, a hynny yn dilyn cyfnod llwyddiannus yn brif hyfforddwr ar dîm merched Awstralia ers 2015, gyda’r tîm wedi ennill Cwpan 20 Pelawd y Byd ddwywaith yn olynol, Cwpan 50 Pelawd y Byd a phedair Cyfres y Lludw yn olynol.

O dan ei arweiniad, mae’r tîm wedi ennill 26 o gemau undydd yn olynol, sy’n record ar draws gêm y merched a’r dynion.

Roedd e hefyd wedi hyfforddi tîm talaith New South Wales, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr 20 Pelawd yn 2009, cyn ymuno â Morgannwg, a gweithio wedyn fel ymgynghorydd gyda thîm Iwerddon yn ystod Cwpan y Byd 2015.

Roedd disgwyl iddo fe arwain tîm merched y Tân Cymreig ar gyfer tymor cynta’r Can Pelen, ond fe dynnodd e’n ôl o’r swydd cyn dechrau’r gystadleuaeth.

‘Cysylltiadau yng ngwledydd Prydain’

“Dw i wrth fy modd o gael derbyn y cyfle i dderbyn y swydd pêl wen hon gyda Lloegr,” meddai Matthew Mott.

“Tra mai Awstraliad ydw i, mae gen i gysylltiadau dwfn ac mae nifer o’m ffrindiau pennaf yn y Deyrnas Unedig, wedi i mi dreulio cryn amser yn yr Alban, Cymru a Lloegr, yn chwaraewr ac yn hyfforddwr.”

Wrth dderbyn y rôl, fe dalodd e deyrnged i Andrew Symonds, ei ffrind a chyn-chwaraewr Awstralia, fu farw mewn gwrthdrawiad yn Awstralia dros y penwythnos.