Mae Brodie Dupont, a fu wrth y llyw yn niwedd y tymor hoci iâ diwethaf, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr parhaol Devils Caerdydd.
Roedd y gŵr 35 oed wrth y llyw ar gyfer y Bencampwriaeth Ail Gyfle yn ystod pythefnos ola’r tymor cyffredin, ac fe arweiniodd e’r tîm i’w trydedd Pencampwriaeth Ail Gyfle yn olynol.
Fe lofnododd e gytundeb i fod yn chwaraewr/is-hyfforddwr y tymor diwethaf, ond fe fu’n rhaid iddo roi’r gorau i chwarae hanner ffordd drwy’r tymor o ganlyniad i anaf, gan gamu’n syth yn ôl i’r tîm hyfforddi ochr yn ochr â Jarrod Skalde a Neil Francis ar ôl y Nadolig.
Treuliodd e wyth tymor yn chwarae yn yr AHL, gyda’r Hartford Woolpack yn bennaf a’r rheiny’n un o’r prif dimau sy’n bwydo’r New York Rangers.
Cafodd ei alw i dîm y Rangers am un gêm yn ystod tymor 2010-11, cyn symud i Ewrop a chwarae yng nghynghreiriau’r Almaen, Awstria a Denmarc cyn ymuno â’r Devils haf diwethaf.
“Dw i wedi cyffroi o gael dechrau, ac yn edrych ymlaen at ddod â grŵp craidd y tîm y tymor diwethaf yn ôl,” meddai ar ôl cael ei benodi.
“Roedd gennym ni grŵp gwych, ac fe gawson ni i gyd flas ar ennill pencampwriaeth y tymor diwethaf, felly mae’r bois yn ysu i ennill eto, ac mi ydw i hefyd.”
‘Cyfle i brofi’i hun’
“Fe wnaethon ni benderfynu gyda phythefnos yn weddill o’r tymor i wneud newid o ran yr hyfforddi, a’r cynllun oedd rhoi cyfle i Brodie brofi’i hun fel prif hyfforddwr, ac fe wnaeth e hynny yn amlwg,” meddai Todd Kelman, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cardiff Devils.
“Fe welson ni’r ffordd wnaeth y bois ymateb iddo fe, i’w dull hyfforddi, iddo fe fel arweinydd.
“Mae’r boi hwn yn haeddu bod yn brif hyfforddwr ac wrth siarad ar ran y perchnogion, Neil Francis, fi a gweddill y sefydliad, rydym yn gyfforddus iawn gyda Brodie Dupont fel ein prif hyfforddwr.”