Mae Mojeid Ilyas wedi cael ei benodi’n Bencampwr Amrywiaeth a Sgowt Talent gyda Chlwb Criced Morgannwg, yn y gobaith o ddenu mwy o gricedwyr o gefndiroedd lleiafrifol at y gamp yng Nghymru.
Bydd y cyn-gricedwr yn cydweithio â chymunedau amrywiol ym mhob cwr o Gymru i dyfu’r gêm ac i adnabod chwaraewyr y dyfodol y tu allan i’r llwybrau arferol, gan wneud rhywfaint o waith hyfforddi hefyd fel rhan o Lwybrau Morgannwg.
Yn hanu o Grangetown yng Nghaerdydd, fe fu Mojeid Ilyas yn chwarae i Glwb Criced Asiaid Cymru, sydd bellach yn Glwb Criced Llandaf, cyn chwarae i dimau Caerdydd, Sain Ffagan a Chasnewydd.
Fe gynrychiolodd e dimau ieuenctid Cymru cyn cael ei dderbyn yn aelod o Academi Morgannwg, gan fynd yn ei flaen i gynrychioli Siroedd Llai Cymru, Prifysgolion Caerdydd yr MCC ac ail dîm Morgannwg.
Bydd yn parhau i weithio i gorff Criced Cymru fel Swyddog Datblygu Criced mewn Cymunedau Amrywiol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, lle mae’n gyfrifol am sawl menter gymunedol, gan gynnwys Criced Stryd, Criced Rhyng-ffydd, Criced Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, a Chriced i Fenywod a Merched.
Yn fwyaf diweddar, fe fu’n lansio Cynghrair Pêl-dâp Ramadan Criced Cymru a Morgannwg, gyda sesiynau hwyrnos yn cael eu cynnal drwy gydol mis Ebrill, gan alluogi Mwslimiaid i chwarae criced wrth iddyn nhw ddilyn defodau Ramadan.
‘Braint wirioneddol’
“Mae hi’n fraint wirioneddol cael y cyfle i weithio yng Nghlwb Criced Morgannwg fel eu Pencampwr Amrywiaeth a Sgowt Talent,” meddai Mojeid Ilyas.
“Mae Morgannwg yn glwb dw i’n ei garu fyth ers i fi fynd i wylio fy ngêm gyntaf dros ddegawd yn ôl.
“Mae’r cyfle i weithio gyda fy nghymuned leol a chymunedau eraill ledled Cymru wrth wneud y clwb yn lle sy’n hygyrch i bawb a sicrhau bod y llwybr ei hun yn deg ac yn gynhwysol yn rywbeth dw i’n angerddol iawn yn ei gylch.”
Mae Mark Frost, Rheolwr Cymuned a Datblygu Clwb Criced Morgannwg, wedi croesawu Mojeid Ilyas i’r swydd.
“Mae gan Mojeid wybodaeth helaeth o’r gêm clybiau ac mae e eisoes wedi cyflwyno’n llwyddiannus ystod o fentrau cymunedol drwy ei waith gyda Chriced Cymru.
“Mae llenwi’r rôl hon yn gam pwysig yng ngwaith parhaus Morgannwg ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i wneud criced yng Nghymru’n fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.”