Bydd gêm olaf tîm pêl-droed merched Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2023 yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle bydd carfan Gemma Grainger yn wynebu Slofenia ar Fedi 6.

Mae’r garfan yn gobeithio creu hanes wrth i Gymru geisio cyrraedd y gemau ail gyfle am y tro cyntaf erioed.

Gyda dwy gêm i fynd a Chymru yn yr ail safle yn y grŵp, byddai pedwar pwynt yn y ddwy gêm olaf yn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Y tro diwethaf wnaeth y tîm chwarae yng Nghaerdydd, fe wnaethon nhw dorri’r record am y dorf fwyaf ar gyfer gêm ryngwladol gartref, gyda 5,455 o gefnogwyr yn bresennol i wylio’r tîm yn curo Estonia o 4-0.

Bydd Gemma Grainger a’i charfan yn gobeithio gweld y record yn cael ei thorri unwaith eto, gyda’r Wal Goch yn cael ei hystyried yn rhan enfawr o’r ymdrech i greu hanes yng Nghaerdydd.

Bydd tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Slofenia yn mynd ar werth ar ddydd Llun, Mai 23 ar faw.cymru/tickets, gyda phrisiau yn dechrau o £2 (archeb grŵp) a £4 (archeb unigolyn) ar gyfer plant.