Gareth Lanagan, sy’n Aelod o Fwrdd Criced Cymru, sy’n trafod ymdrechion corff llywodraethu’r gamp i gefnogi clybiau yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel bod y gamp yn parhau mor berthnasol ag erioed i Gymry Cymraeg ar lawr gwlad…

Mae Criced Cymru yn hynod falch o’n hunaniaeth Gymreig ac wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, ’rydym wedi penodi grŵp o bobl angerddol o deulu Criced yng Nghymru i’n helpu i lunio ein hymdrechion ymhellach yn y maes hwn, er mwyn sicrhau bod Criced yng Nghymru yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed i siaradwyr Cymraeg, ac i gefnogi ein clybiau i gael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweithgareddau, os dymunant.

Mae’r grŵp yn cynnwys unigolion o bob rhan o Gymru:

  • Carys Stallard (Clwb Criced Vale, ger Pen-y-bont ar Ogwr),
  • Rhodri Jones (CC Creigiau, ger Caerdydd),
  • Richard Jeffries (CC Panteg, Torfaen),
  • Dr Meilyr Emrys (Aelod Annibynnol, Caernarfon),
  • Helen Gwenllian (CC Bronwydd, Sir Gaerfyrddin),
  • Llinos Hill (CC Conwy),
  • Ben Roberts (CC Pontarddulais, ger Abertawe),
  • Rhys Pritchard (CC Bethesda, Gwynedd).

Bydd Criced Cymru yn cydweithio â Morgannwg ar y gwaith yma ac i hwyluso hynny, bydd Tegid Phillips – sy’n aelod o brif garfan y sir – yn rhan o’r grŵp hefyd. Mae Tegid yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac fe fydd hi’n hyfryd cael cricedwr proffesiynol yn ymwneud yn uniongyrchol â’n gwaith i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y gamp.

’Rydym wedi bod yn gweithio’n frwd â Chomisiynydd y Gymraeg ers sawl blwyddyn ac felly ’rydym eisoes yn ceisio amlygu ein hymdrechion a’n huchelgeisiau mewn perthynas â chefnogi a defnyddio’r Gymraeg ar draws ein busnes. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg mewn chwaraeon a’n rôl i helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Trwy’r prosiect hwn, rydym yn gobeithio, ymhen amser, y bydd y Gymraeg yn dod yn rhan hyd yn oed fwy cynhenid a naturiol o griced ledled Cymru.

Dywedodd Leshia Hawkins, Prif Weithredwr Criced Cymru, am y grŵp:

“Fel un sydd wrthi’n dysgu Cymraeg fy hun, rwy’n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd a pherthnasedd defnyddio’r iaith o fewn y gymdeithas, a chyfrifoldeb Criced Cymru i adlewyrchu’r cymunedau mae’n gwasanaethu. Byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau, lle bynnag y bo modd, i gynyddu’r gallu yn y maes hwn, gan greu cyfleoedd i ddangos ein balchder yn ein hunaniaeth Gymraeg. Nod y grŵp yw annog cyfranogiad a chynrychiolaeth o bob lefel o griced a gallu i siarad yr iaith, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyfarfod ag anghenion siaradwyr Cymraeg o fewn criced yng Nghymru. Rydw i’n ddiolchgar i’r aelodau sydd wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o’r grŵp ac mi ydwyf yn gyffrous am y cyfleoedd a’r allbynnau sydd o’n blaenau ni.”

Cyfarfu Grŵp Cymraeg Criced Cymru am y tro cyntaf ar nos Fawrth, Mawrth 10 a dywedodd un o’r aelodau, Dr Meilyr Emrys, yn dilyn y cyfarfod cychwynnol hwnnw:

“Ynghyd â chadarnhau bod Criced Cymru eisoes yn ymrwymedig i’r iaith, mae sefydlu’r grŵp hwn hefyd yn creu cyfle cyffrous i fynd ati i gynyddu defnydd y Gymraeg o fewn y gamp yng Nghymru. Mwynheais gyfarfod cyntaf y Grŵp Cymraeg yn fawr: ’roedd hi mor braf gweld cymaint o frwdfrydedd ynglŷn â’r iaith gan unigolion sy’n ymwneud â chriced ym mhob cwr o’r wlad. Mae’n amlwg, yn barod, bod gan yr aelodau nifer o syniadau diddorol ac addawol ynglŷn â hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y gamp. Gwych hefyd oedd clywed cyflwyniad cadarnhaol gan Mark Frost (sef Rheolwr Datblygu Criced Cymru), wnaeth arddangos bod y sefydliad (a chlwb Morgannwg) eisoes wedi dechrau cymryd camau pendant i gynyddu defnydd y Gymraeg. Nid yw’r grŵp hwn yn dechrau o ddim felly: mae’n amlwg bod seiliau clir wedi cael eu gosod yn barod.”