Wrth i’r tymor domestig dynnu at ei derfyn, dim ond pedwar diwrnod sydd tan y bydd Rob Page yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau mawr mis Mehefin ddydd Iau. Gyda phum gêm mewn pedwar diwrnod ar ddeg mae’n debygol o fod yn garfan fwy na’r arfer felly roedd un cyfle olaf i ambell chwaraewr greu argraff ar y rheolwr cenedlaethol y penwythnos hwn. Bydd ambell un arall yn ceisio sicrhau clwb ar gyfer y tymor nesaf a chael hynny allan o’r ffordd cyn y gemau rhyngwladol.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Mae Tottenham Hotspur yn gorffen y tymor yn gryf ac mewn ras gyffrous am y pedwerydd safle holl bwysig. Cawsant fuddugoliaeth swmpus yn erbyn Arsenal ganol wythnos cyn neidio dros eu harch elyn yn y tabl gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Burnley ddydd Sul.

Dechreuodd Ben Davies y ddwy gêm, dim llawer o syndod yn hynny. Ond yr hyn a oedd yn fwy annisgwyl oedd gweld Antonio Conte yn defnyddio Joe Rodon oddi ar y fainc yn y ddwy gêm, er mai dim ond am ychydig funudau yr oedd hynny ar y ddau achlysur. Rhain a oedd ymddangosiadau cyntaf y Cymro yn y gynghrair ers i’r Eidalwyr gymryd yr awenau ym mis Tachwedd.

Rhoddodd y golled yn erbyn Spurs Burnley yn ôl yn y tri isaf. Chwaraeodd Connor Roberts y gêm gyfan ac roedd Wayne Hennessey ar y fainc.

Leeds yw’r tîm sydd yn codi dros Burnley, diolch i gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Brighton ddydd Sul. Nid oedd Dan James yn y garfan serch hynny, roedd ef wedi ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch am dacl wael ar Mateo Kovacic yn y golled ganol wythnos yn erbyn Chelsea. Bydd y Cymro yn colli gêm olaf Leeds yn erbyn Brentford ddydd Sul nesaf hefyd oherwydd y gwaharddiad.

Fe all Burnley fod wedi dychwelyd dros Leeds yn y tabl erbyn hynny gan fod ganddynt gêm wrth gefn, yn erbyn Aston Villa nos Iau.

Roedd ymddangosiad prin i Danny Ward ddydd Sul, a phrynhawn cyfforddus iawn i’r gôl-geidwad hefyd wrth i’w dîm Caerlŷr guro Watford o bum gôl i un.

Dechrau ar y fainc a wnaeth Fin Stevens i Brenford yn erbyn Everton yn y gêm hwyr brynhawn Sul.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Gyda’r tymor arferol ar ben dim ond dwy gêm ail gyfle a gafwyd yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn.

Teithiodd Huddersfield i Luton ar gyfer cymal cyntaf y rownd gynderfynol nos Wener ac un gôl yr un yw hi cyn yr ail gymal yn Huddersfield nos Lun. Dechreuodd Tom Lockyer ar y fainc i Luton cyn dod i’r cae hanner ffordd trwy’r ail hanner. Ar y fainc yr oedd Sorba Thomas i Huddersfield hefyd yn dilyn cyfnod allan gydag anaf. Chwaraeodd y pum munud olaf ond bydd yn gobeithio chwarae mwy o ran yn yr ail gymal.

Nottingham Forest sydd â’r oruchafiaeth yn y rownd gynderfynol arall ar ôl trechu Sheffield United yn y cymal cyntaf ddydd Sadwrn. Brennan Johnson a oedd seren y gêm i Forest, yng nghanol popeth yn ôl ei arfer ac yn rhwydo’r ail gôl holl bwysig. Dechreuodd Adam Davies a Rhys Norrington-Davies ar y fainc i’r Blades, gyda Norrington-Davies yn dod i’r cael am yr eiliadau olaf. Nos Fawrth y mae’r ail gymal.

Stori fawr arall o’r Bencampwriaeth yr wythnos hon oedd penodiad rheolwr newydd Watford ar gyfer y tymor nesaf. Cafodd y clwb sydd yn disgyn o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor ac yn enwog am eu hoffter o newid rheolwyr ei beirniadu gan nifer am y ffordd yr aethant ati i ddenu Rob Edwards heb gysylltu’n gyntaf â’i glwb presennol, Forest Green Rovers. Go brin y caiff cyn amddiffynnwr Cymru lawer o amser i brofi’i hun ar Vicarage Road ond mae’n gyfle da i’r rheolwr ifanc.

Parhau y mae’r dyfalu am ddyfodol Joe Allen wedi i’w gyfnod gyda Stoke ddod i ben. Mae chwaraewr canol cae Cymru wedi ei gysylltu’r wythnos hon â dychweliad i Abertawe a chlybiau yn Sbaen yn ogystal â symudiad i’r ddau dîm sydd eisoes wedi esgyn o’r Bencampwriaeth y tymor hwn, Fulham a Bournemouth.

Un arall o ardal Abertawe a fydd yn symud dros yr haf fydd Dave Cornell. Roedd gôl-geidwad ar restr o chwaraewr a gafodd eu rhyddhau gan Peterborough yr wythnos hon wedi iddynt ddisgyn o’r Bencampwriaeth.

 

*

 

Cynghreiriau is

Cafodd un o enwau mawr Cymru ei ryddhau gan ei glwb yn yr Adran gyntaf yr wythnos hon, gyda Chris Gunter ac Adam Matthews ar restr Charlton Athletic. Mae Matthews wedi chwarae’n eithaf rheolaidd y tymor hwn ac mae’n ddigon hawdd gweld y cefnwr tri deg mlwydd oed yn sicrhau cytundeb gyda thîm arall yn yr Adran Gyntaf neu ddychwelyd i’r Alban o bosib.

Mae Gunter yn un anoddach i’w ragdybio. Yn ddwy flynedd yn hyn, wedi chwarae dipyn llai’r tymor hwn ac ag un llygad ar hyfforddi. Go brin y bydd rhes o glybiau Adran Gyntaf yn holi amdano. Mae ambell un ar y cyfryngau cymdeithasol wedi crybwyll y Cymru Premier a chofiwch nad yw erioed wedi chwarae i glwb ei ddinas enedigol, Casnewydd. Tybiaf y bydd Gunts yn awyddus i gyfuno rôl hyfforddi yn ei glwb nesaf ond hefyd eisiau chwarae’n rheolaidd ar lefel gymharol uchel tan fis Tachwedd o leiaf os yw Cymru’n cyrraedd Qatar. Aros tan fis Mehefin cyn penderfynu felly?

Port Vale a oedd gwrthwynebwyr Swindon yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran ddydd Sul. Ennill o ddwy gôl i un a fu eu hanes gyda Jonny Williams yn dechrau’r gêm a chreu gôl agoriadol ei dîm i Harry McKirdy. Mae’r ail gymal nos Iau.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Daeth tymor Uwch Gynghrair yr Alban i ben yr wythnos hon gyda rownd o gemau ganol wythnos ac un arall ar y penwythnos.

Sgoriodd Dylan Levitt gôl anhygoel wrth i Dundee Unitd gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn y pencampwyr, Celtic, nos Fercher. Ac roedd chwaraewr canol cae Cymru sydd ar fenthyg o Man U yn y tîm eto ddydd Sadwrn wrth iddynt guro Ross County o ddwy gôl i un a gorffen tymor gwych yn y pedwerydd safle. Nid yn unig mae Levitt wedi cael munudau yn yr Alban ond wedi datblygu ei gêm ac ychwanegu goliau o ganol cae.

Un sydd wedi cael cyfnod llai llwyddiannus ar fenthyg yw Ben Woodburn, sydd wedi bod gyda Hearts. Mae chwaraewr Lerpwl wedi chwarae’n achlysurol ond heb fygwth llawer o flaen gôl ac wedi ei chael hi’n anodd cadw’i le. Dyna’r hanes yr wythnos hon, dechrau yn y golled ganol wythnos yn erbyn Motherwell cyn dychwelyd i’r fainc y erbyn Rangers ddydd Sadwrn.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Aaron Ramsey i Rangers ganol wythnos ond dechreuodd yn erbyn Hearts ddydd Sadwrn. Yn wir, y Cymro a greodd ail gôl ei dîm wrth iddynt daro nôl i ennill o dair i un ar ôl mynd ar ei hôl hi’n gynnar. Y cwestiwn mawr yn awr yw faint o gyfraniad fydd Rambo yn ei wneud yn nwy gêm olaf Rangers y tymor hwn, rownd derfynol Cynghrair Europa yn erbyn Eintracht Frankfurt nos Fercher a ffeinal Cwpan yr Alban yn erbyn Hearts ddydd Sadwrn.

Daeth tymor hynod siomedig Aberdeen i ben gyda cholled ganol wythnos yn erbyn St Johnstone a gêm ddi sgôr yn erbyn St Mirren ddydd Sul. Nid oedd Marley Watkins yn y garfan ar gyfer y gêm gyntaf ond chwaraeodd yr awr gyntaf yn erbyn St Mirren wrth i’w dîm orffen yn drydydd o’r gwaelod.

Cafodd Morgan Boyes rediad da yn nhîm Livingston dros wythnosau olaf y tymor, yn chwarae’r gêm gyfan yng nghanol yr amddiffyn yn erbyn St Mirren nos Fercher a dechrau eto yn erbyn Dundee ar y Sul olaf. Enillodd Livi y gêm honno o ddwy gôl i un ond bu’n rhaid i Boyes adael y cae oherwydd anaf gydag ychydig funudau’n weddill.

Nid oedd golwg o Christian Doidge yng ngharfan Hibs ar gyfer eu gemau olaf hwy. Mae’r Cymro wedi cael tymor anodd wedi ei effeithio gan anafiadau.

Yn yr Eidal, daeth cadarnhad ddydd Sadwrn y bydd Venezia yn disgyn o Seria A wedi dim on un tymor. Golygodd pwynt Salernitana yn erbyn Empoli mewn gêm gynharach fod tynged Venezia wedi ei benderfynu cyn cic gyntaf eu gêm hwy yn Roma. Gorffen yn gyfartal un gôl yr un a wnaeth y gêm honno, gydag Ethan Ampadu yn chwarae’r naw deg munud yng nghanol yr amddiffyn. Mae’n debyg mai’r gêm yn erbyn Cagliari ddydd Sul nesaf fydd gêm olaf y Cymro dros yr Eidalwyr wrth i’w gyfnod ar fenthyg o Chelsea ddod i ben.

Gorffennodd St. Pauli y tymor yn bumed yn y 2. Bundesliga yn dilyn buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Dusseldorf ar y Sul olaf. Er gwaethaf rhediad da yn y tîm yng nghanol y tymor, ar y fainc y treuliodd James Lawrence y rhan fwyaf o’r misoedd diwethaf. Dyna le dechreuodd y gêm olaf gan ddod i’r cae am ychydig eiliadau fel eilydd hwyr.

Yn Sbaen, roedd Gareth Bale yn ôl yn ymarfer yr wythnos hon ond nid oedd yn y garfan yn erbyn Cadiz nos Sul. Go brin y gwelwn ni ef mewn crys Real Madrid eto mewn gwirionedd, er cymaint yr hoffai cefnogwyr Cymru ei weld yn cael un cyfle olaf yn rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr yn erbyn Lerpwl.