Mae tîm pêl-droed Wrecsam bellach yn gwybod eu bod nhw yng ngemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol, wrth iddyn nhw geisio dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers 14 o flynyddoedd.

Roedd angen iddyn nhw guro Dagenham & Redbridge a gobeithio bod Halifax yn curo Stockport er mwyn iddyn nhw gael eu dyrchafu’n bencampwyr.

Ond colli oddi cartref o 3-0 oedd hanes tîm Phil Parkinson, tra bod Stockport wedi ennill gartref o 2-0.

Mae hynny’n golygu bod Wrecsam yn gorffen yn ail.

Dyma sut mae’r gemau ail gyfle’n gweithio:

Mae Stockport wedi’u dyrchafu’n bencampwyr, felly does dim angen iddyn nhw boeni beth ddaw nesaf.

Y dilëyddion (eliminators) sydd gyntaf, gyda’r enillwyr yn ennill yr hawl i deithio i herio’r timau wnaeth orffen yn safleoedd uchaf wedyn.

Ar Fai 23, bydd y tîm wnaeth orffen yn bumed (Notts County) yn croesawu’r tîm yn y chweched safle (Grimsby) yng ngêm Dilëydd A.

Ar Fai 24, y tîm orffennodd yn bedwerydd (Halifax) fydd yn croesawu’r tîm yn y seithfed safle (Chesterfield) yng ngêm Dilëydd B.

Bydd y ddwy gêm yn cychwyn am 7.45yh.

O ran y gemau cyn-derfynol, bydd y rheiny yn cael eu cynnal ar Fai 28 a 29.

Ar Fai 28, bydd y tîm wnaeth orffen yn ail (Wrecsam) yn herio enillydd Dilëydd A (Notts County neu Grimsby).

Ar Fai 29, bydd y tîm wnaeth orffen yn drydydd (Solihull Moors) yn herio enillydd Dliëydd B (Halifax neu Chesterfield).

Bydd enillwyr y ddwy gêm gyn-derfynol yn herio’i gilydd yn y rownd derfynol ar Fehefin 5.

Ond cyn hynny, ymhen wythnos (dydd Sul, Mai 22), bydd Wrecsam yn herio Bromley mewn cystadleuaeth arall, Tlws yr FA, yn Wembley.

Mae digon o gyffro i ddod cyn diwedd y tymor!