Mae tîm criced Morgannwg wedi colli’n annisgwyl ar ddiwrnod olaf eu gêm Bencampwriaeth yn Durham.

Dechreuon nhw’r diwrnod mewn sefyllfa gyfforddus ar 126 am dair wrth gwrso 191 i ennill, ond collon nhw eu saith wiced olaf am 67 wrth i Durham ennill o 53 rhediad.

Ond roedd gwaeth i ddod ar ddiwedd yr ornest, gan ei bod hi’n ymddangos eu bod nhw wedi cael cosb o bum rhediad am ddiffyg disgyblaeth ar y cae, ac maen nhw felly wedi colli o 58 rhediad.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Durham yn y Bencampwriaeth eleni, a seren y gêm oedd Matty Potts, wrth i’r bowliwr cyflym gipio saith wiced yn yr ail fatiad ac 11 yn yr ornest.

Manylion

Roedd Matty Potts ar dân ar y bore olaf, gan ychwanegu pum wiced at y ddwy gipiodd e neithiwr i orffen gyda saith wiced am 40 yn y batiad, ac 11 wiced am 101 yn yr ornest.

Llithrodd Morgannwg o 65 am ddwy i 137 ar ôl i Marnus Labuschagne golli ei wiced yn hwyr ar y trydydd diwrnod gan roi’r momentwm i’r tîm cartref.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Potts wneud rhagor o niwed ar y diwrnod olaf, ac mae’n debygol iawn y bydd y perfformiad hwn yn arwain at alwad i ymuno â thîm Lloegr gan y capten a’i gyd-chwaraewr yn Durham, Ben Stokes.

Cyn yr ornest hon, roedd Durham heb fuddugoliaeth mewn pum gêm yn y Bencampwriaeth, ond mae’r canlyniad yn eu codi nhw i’r trydydd safle yn yr ail adran.

Kiran Carlson oedd y batiwr cyntaf allan wrth iddo gael ei dwyllo gan belen uchel gan Potts, gyda’r batiwr yn cael ei ddal gan y wicedwr Ned Eckersley heb sgorio.

Dilynodd Sam Northeast yn fuan wedyn ar ôl bod yn edrych yn gyfforddus, gyda Scott Borthwick yn ei ddal rhwng ei goesau ar yr ail gynnig am 26.

Cafodd Billy Root ei ddal gan Eckersley am ddeg wrth i Durham droi at Brydon Carse, a’r batiwr yn ceisio’i fachu a chael ei ddal gan adael Morgannwg yn 103 am chwech ac mewn rhywfaint o drafferth.

Dychwelodd Potts i’r ymosod ar ôl seibiant, ac fe gipiodd ei bumed wiced wrth daro coes y capten David Lloyd o flaen y wiced, ac yntau’n batio’n hwyr ar ôl anafu ei goes yn gynharach yn yr ornest.

Roedd Durham yn swynhwyro’r cyfle am fuddugoliaeth ar ôl cinio, ac fe wnaeth Carse ddarganfod ymyl bat Chris Cooke ar 22, gan roi daliad arall i Eckersley.

Cipiodd Potts ddwy wiced ola’r batiad mewn dwy belen, wrth waredu Michael Neser a Michael Hogan, gan daro’r naill ar ei goes o flaen y wiced a bowlio’r llall, gyda Morgannwg i gyd allan am 137.

Ymateb

“Roeddwn i’n meddwl bod Durham wedi bowlio’n wych,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Roedd y llain i fyny ac i lawr, ond ddaru Matthew Potts a Bryson Carse, ochr yn ochr â Ben Raine a Chris Rushworth, roi dim byd i ni. Dw i’n meddwl bod un ergyd pedwar yn y sesiwn gyfan.

“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi cael ambell benderfyniad aeth o’u plaid nhw ac rydan ni wedi talu’r pris am hynny.

“Y troseddau pum rhediad oedd Billy Root, gan ei fod o’n teimlo nad oedd o wedi cael yn agos at y bêl ac wedi codi ei ben a’i freichiau i fyny.

“Wedyn roedd Michael Neser yn anlwg yn teimlo ei fod o wedi taro’r bêl ac wedi codi ei fat dipyn bach.

“Rhaid i ni fod yn ofalus yn y gêm nad ydan ni’n drysu emosiynau dynol hefo ymateb i benderfyniad sydd wedi mynd yn eich erbyn chi.

“Ond y rheolau ydi’r rheolau, ac rydan ni wedi’u torri nhw yn y ddau achos.”

Sgorfwrdd

Marnus Labuschagne

Morgannwg yn cwrso buddugoliaeth yn Durham

Maen nhw’n 65 am dair ac mae angen 126 yn rhagor o rediadau arnyn nhw ar y diwrnod olaf

Billy Root yn taro’n ôl i Forgannwg yn Durham

Sgoriodd e 88 wrth i Forgannwg adeiladu blaenoriaeth ar ddiwedd y batiad cyntaf

Morgannwg dan bwysau yn Durham

Ben Stokes yn serennu unwaith eto i’r Saeson gyda’r bat
Ben Stokes

Morgannwg yn teithio i Durham

Bydd y sir Gymreig yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerlŷr