Mae tîm pêl-droed Wrecsam 90 munud i ffwrdd o wybod a fyddan nhw’n cael dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed yn awtomatig.
Mae gan Wrecsam 88 o bwyntiau yn yr ail safle, a Stockport 91 o bwyntiau ar y brig.
Er mwyn ennill y Gynghrair Genedlaethol a sicrhau dyrchafiad i Ail Adran y Gynghrair Bêl-droed, mae’n rhaid i’r tîm Cymreig guro Dagenham & Redbridge a gobeithio y gall Halifax guro Stockport gan mai un pwynt yn unig sydd ei angen ar Stockport i gipio’r tlws a’r dyrchafiad.
Cododd tîm Phil Parkinson i’r brig ar sail gwahaniaeth goliau am gyfnod byr yr wythnos ddiwethaf ar ôl curo Stockport o 3-0, ond dychwelodd y Saeson i’r brig ar ôl guro Torquay ganol yr wythnos.
Mae 14 o flynyddoedd bellach ers i Wrecsam chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed, tra bod Stockport allan ohoni ers 11 mlynedd.
Mae Parkinson yn hen law ar ennill dyrchafiadau, gyda thri yn ystod ei yrfa’n rheolwr, ond gyda’r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi creu stori ffilm ar y Cae Ras y tymor hwn, bydd y clwb yn gobeithio’n fawr am ddiweddglo Hollywood-aidd go iawn i’r 1,500 a mwy o gefnogwyr sydd wedi heidio i Lundain wrth i’r llen ddod i lawr ar y tymor.