Mae angen 126 yn rhagor o rediadau ar dîm criced Morgannwg i guro Durham oddi cartref ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth fory (dydd Sul, Mai 15).
Cafodd y tîm cartref eu bowlio allan am 244 yn eu hail fatiad, ac mae Morgannwg yn 65 am dair gyda 126 yn rhagor o rediadau i’w sgorio i ennill yr ornest.
Adeiladodd Scott Borthwick ac Alex Lees bartneriaeth gadarn o 138 i’r Saeson, ond cipiodd Marnus Labuschagne, y troellwr coes achlysurol, bedair wiced am 57 i roi’r pwysau arnyn nhw ar eu tomen eu hunain.
Collodd Morgannwg ddwy wiced gynnar wrth iddyn nhw gwrso nod o 191, cyn i Labuschagne golli’i wiced oddi ar belen ola’r dydd am 31, gan roi llygedyn o obaith i Durham.
Manylion
Roedd Durham ar ei hôl hi o 15 rhediad ar ddechrau’r trydydd diwrnod, a tharodd Michael Hogan goes Matty Potts o flaen y wiced am dri yn gynnar yn y dydd.
Er gwaetha’r pwysau ar Borthwick a Lees, fe wnaethon nhw osod y seiliau i Durham, er i Borthwick roi hanner cyfle i Kiran Carlson am ddaliad sgwâr ar ochr y goes ar 44 cyn cyrraedd ei drydydd hanner canred eleni.
Goroesodd Lees waedd am goes y flaen y wiced ar 41 cyn cael ei ollwng gan Michael Neser yn y slip ar 43 oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter, a bu bron i Carlson ei redeg e allan.
Ond fe chwaraeodd e ergyd yn erbyn llinell y bêl wrth i Labuschagne daro’i goes o flaen y wiced am 61 i ddod â’r bartneriaeth fawr i ben.
Roedd Borthwick ar drothwy ei ganred, ar 90, pan gafodd ei fowlio gan belen lawn gan Labuschagne.
Cwympodd un wiced ar ôl y llall wedyn wrth i Ben Stokes, capten newydd Lloegr, ddod i’r llain a chael ei ollwng gan Neser ar 13 cyn colli ei wiced i Labuschagne wrth golli ei gydbwysedd a chael ei stympio gan Chris Cooke.
Daeth Neser â batiad Durham i ben wrth waredu Ben Raine a Chris Rushworth, gan orffen gyda ffigurau o wyth am 124 ar draws y ddau fatiad.
Morgannwg yn cwrso
Cipiodd Potts ddwy wiced gynnar wrth waredu’r agorwr dros dro Andy Gorvin ac Andrew Salter, ac roedd Morgannwg yn 15 am ddwy wrth i’r bowliwr gyrraedd 30 wiced yn y Bencampwriaeth eleni.
Gallai Morgannwg fod wedi bod mewn sefyllfa gref dros ben oni bai iddyn nhw golli Labuschagne mor hwyr yn y dydd, gyda Raine yn ei waredu am yr ail waith yn yr ornest.
“Byddai wedi bod yn braf cael Marnus yno o hyd yn y bore, ond ar y cyfan roedd yn ddiwrnod da i ni gyda’r bêl,” meddai’r is-hyfforddwr David Harrison.
“Roedd y ffordd wnaeth Michael Hogan a Michael Neser fowlio’n rhagorol, a’r jobyn wnaeth y ddau droellwr gyda dau fowliwr wedi’u hanafu’n ymdrech lew gan y bois yn y maes.”