Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, y cwmni gemau cyfrifiadurol EA Sports a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam wedi dod ynghyd i ariannu cwrs gradd dau fyfyriwr yn Wrecsam.

Mae Dylan Robinson a Nigel Hammond yn fyfyrwyr is-raddedig yn y brifysgol, ac fe ddaethon nhw i frig y gystadleuaeth i ddyfarnu Ysgoloriaeth Gemau EA Sports, sy’n rhan o ymrwymiad y cwmni gemau i gefnogi gwaith Clwb Pêl-droed Wrecsam oddi ar y cae ac yn y gymuned leol fel partner arloesi swyddogol.

Fel rhan o’r bartneriaeth rhwng EA Sports a’r clwb, cafodd y clwb eu derbyn fel un o’r timau y mae modd eu rheoli yn y ‘Kick-Off’ o  fewn gêm FIFA 22, sydd ar gael i’w chwarae ar draws y byd ar PlayStation 5, Xbox Series X|S, PC trwy Origin a Steam, Stadia, PlayStation 4 ac Xbox One, tra bydd fersiwn Legacy Edition FIFA 22 ar gael ar Nintendo Switch.

Cafodd y ddau fyfyriwr, sy’n astudio BSc mewn Datblygu Gemau Cyfrifiadurol a BSc mewn Dylunio a Mentergarwch Gemau Cyfrifiadurol, eu cyd-ariannu ar ôl penderfynu rhannu’r wobr ar ôl i’r ddau ohonyn nhw gyrraedd y rhestr fer.

Yn ôl Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam, gall y bartneriaeth helpu’r clwb i gyflawni nod, sef “gwneud gwahaniaeth positif i’r gymuned ehangach yn Wrecsam”.

“Mae hon yn fenter wych, sydd wedi cynnig cyfle arbennig i ddau enillydd,” meddai.

Yn ôl Shaun Pejic, Cynhyrchydd Gemau Byw EA Sports a chyn-bêldroediwr gyda Wrecsam, roedd safon y gystadleuaeth yn eithriadol o uchel.

“Rydym yn falch iawn o’r rhaglen hon gan ei bod hi wir yn cynrychioli ethos ein partneriaeth gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam – un sy’n dathlu ac yn meithrin doniau’r dyfodol ac yn buddsoddi yn y gymuned leol,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at ymuno â Dylan a Nigel ar eu taith i mewn i’r diwydiant gemau wrth iddyn nhw barhau â’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam, ond at gael y cyfle hefyd i ddod â nhw’n nes at ecosystem EA Sports drwy raglen fentora agos-atoch yn ystod eu hastudiaethau.”

‘Llwyfan gwych’

“Mae’r rhaglen ysgoloriaeth wedi bod yn llwyfan gwych i’n myfyrwyr gael arddangos eu hangerdd, eu huchelgais a’u creadigrwydd o fewn y gofod gemau, ac rydym wrth ein boddau ynghylch y cyfle a ddaw efo fo i Dylan a Nigel dros y blynyddoedd i ddod,” meddai Richard Hebblewhite, uwch-ddarlithydd yn y brifysgol.

“Mae’n gyfle anghredadwy, a fedra i ddim aros i gychwyn,” meddai Dylan Robinson.

“Pan oeddwn i’n gwybod fy mod i wedi cyrraedd y rhestr fer, fedrwn i ddim ei gredu o,” meddai Nigel Hammond.

“Mae’n teimlo hyd yn oed yn well cael rhannu’r profiad hwn efo Dylan – mae disgwyl i’r blynyddoedd nesaf fod yn rhai digon cyffrous!”