Mae Billy Root, y batiwr llaw chwith, wedi sicrhau bod gan Forgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn Durham.

Roedd y sir Gymreig mewn dyfroedd dyfnion gyda’r sgôr yn 163 am saith, ond sgoriodd Root 88 wrth iddo fe achosi rhwystredigaeth i fowlwyr y tîm cartref.

Tarodd Sam Northeast (51), Kiran Carlson (53) a Michael Neser (62) hanner canred yr un, ond y batwyr yn niwedd y batiad achosodd y rhwystredigaeth go iawn, gan ychwanegu 202 am y dair wiced olaf.

Cipiodd Matty Potts a Ben Raine bedair wiced yr un, ond doedd y bowlwyr eraill ddim ar eu gorau, ac fe wnaeth Morgannwg fanteisio ar hynny i sicrhau blaenoriaeth o 54 ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Collodd Durham ddwy wiced hwyr, Sean Dickson a Keegan Petersen, ac maen nhw mewn rhywfaint o drafferthion, ac ar ei hôl hi o 15 rhediad o hyd.

Manylion y bore

Dechreuodd Morgannwg y diwrnod ar 31 am ddwy, ond collon nhw wiced oddi ar seithfed pelen y dydd wrth i Scott Borthwick gipio daliad wrth neidio i’r ochr yn y slip i waredu David Lloyd wrth i Chris Rushworth ddarganfod ymyl ei fat am naw.

19 pelen gymerodd hi i Marnus Labuschagne sgorio rhediad, a doedd e ddim i’w weld yn gyfforddus wrth y llain cyn iddo fe wynebu tair pelen arall cyn ergydio yn groes i linell y bêl a chael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Ben Raine am 17.

Rhuthrodd Sam Northeast tua’i hanner canred wrth aros yn styfnig wrth y llain a tharo tair ergyd i’r ffin yn olynol, gyda’r batiwr 32 oed yn cyrraedd y garreg filltir am y pedwerydd tro y tymor hwn cyn rhoi daliad i’r wicedwr Ned Eckersley am 51 oddi ar fowlio Rushworth.

Dilynodd Carlson esiampl Northeast wrth roi pwysau ar y bowlwyr, gyda thair pelawd gyntaf Ben Stokes yn ildio 29 rhediad, wrth i’r batiwr gyrraedd ei hanner canred oddi ar 42 o belenni.

Sesiwn y prynhawn

Daeth amser cinio ar adeg dda i Durham, a dychwelodd Potts i fowlio Carlson am 53 oddi ar belen gynta’r sesiwn i adael Morgannwg yn 156 am chwech, a chipiodd y bowliwr ei bedwaredd wiced yn y batiad wrth i Chris Cooke gael ei ddal i lawr ochr y goes gan Eckersley, a Morgannwg yn 163 am saith.

Ond daeth sefydlogrwydd i’r batiad eto wrth i Root a Neser ddod ynghyd, gyda Neser yn ymosod o’r cychwyn cyntaf gan fanteisio ar fowlio llac ar adegau cyn cyrraedd ei hanner canred cyntaf yn y Bencampwriaeth.

Aeth y bartneriaeth y tu hwnt i’r cant cyn i Raine daro coes Neser o flaen y wiced am 62, ond sicrhaodd Root fod Morgannwg yn cipio trydydd pwynt batio wrth iddyn nhw fynd heibio cyfanswm batiad cyntaf Durham.

Roedd Timm van der Gugten yn batio â Labuschagne yn rhedeg drosto fe yn sgil anaf i linyn y gâr, ac fe wnaeth y triawd achosi rhagor o rwystredigaeth i Stoke, Brydon Carse a gweddill y bowlwyr wrth adeiladu partneriaeth o 83 am y nawfed wiced.

Roedd hi’n edrych yn debygol y byddai Root yn cyrraedd ei ganred, ond fe ildiodd ei wiced ar 88 gydag ergyd lac oddi ar fowlio Raine i roi daliad i Borthwick, a’r bowliwr yn cipio’i bedwaredd wiced wrth fowlio Michael Hogan i ddod â’r batiad i ben.

Collodd Durham Sean Dickson a Keegan Petersen eu wicedi yn hwyr yn y dydd – y naill wedi’i daro ar ei goes gan Hogan a’r llall wedi’i fowlio gan Neser – ac mae’r momentwm gan Forgannwg hanner ffordd drwy’r ornest.

“Mae hi bob amser yn braf cael bod ynghlwm,” meddai Billy Root.

“Gall fod yn rhwystredig pan nad ydych chi, ond roedd cael dod yn ôl i mewn a sgorio ychydig o rediadau ochr yn ochr â Michael Neser a Timm van der Gugten yn neis.

“Wnes i wir fwynhau allan yno.

“Siaradon ni am adeiladu partneriaethau ar ôl cael ein cyfyngu i 163 am saith.

“Wrth i’r diwrnod fynd rhagddo a’r llain yn dda, dywedon ni y bydden ni’n parhau i bwyso a lleihau’r gwahaniaeth ac yn y pen draw, dyna wnaethon ni.

“Mae’r ddau ddiwrnod wedi bod yn gyferbyniad i’w gilydd, yr amser yma ddydd Iau roedden ni ddwy [wiced] i lawr ond nawr nhw sydd.

“Mae hi’n sicr yn y fantol, ond rydyn ni’n falch o’n hymdrechion heddiw, a gobeithio eto fory.

“Mae’n llain dda, ond os ydyn ni’n rhoi’r bêl yn y llefydd cywir, fe gawn ni ein gwobrwyo.”