Bydd Caernarfon yn herio’r Fflint yn rownd derfynol gemau ail-gyfle’r Cymru Premier ddydd Sadwrn (Mai 14).

Mae’r gêm yn cael ei chynnal ar yr Oval, Caernarfon, gyda’r gic gyntaf am ddau o’r gloch, a bydd modd ei gwylio’n yn fyw ar S4C Clic, Facebook ac Youtube.

Bydd y tîm buddugol yn hawlio lle yn yr IRN-BRU Cup oherwydd bod Cynghrair Cymru wedi colli un o’i safleoedd Ewropeaidd.

Sicrhaodd y ddau dîm eu lle yn y rownd derfynol yn dilyn buddugoliaethau agos yn y rownd gynderfynol y penwythnos diwethaf.

Curodd Caernarfon Met Caerdydd o 1-0 diolch i gôl gan eu prif sgoriwr Mike Hayes, tra bod y Fflint wedi trechu Penybont ar giciau o’r smotyn.

‘Rhaid i’r Fflint ddod atom ni’

“Dydyn ni ddim wedi gwneud yn rhy dda gartref y tymor hwn ond roedden ni’n llawer gwell na Met Caerdydd yn yr hanner cyntaf,” meddai Huw Griffiths, rheolwr Caernarfon.

“Fe wnaethon nhw newid eu siâp yn yr ail hanner a’n rhoi ni dan lawer o bwysau, ond mae’n dangos y cymeriad sydd gan y garfan.

“Roedd yn gêm gyffrous ac yn ganlyniad gwych i ni.

“Rwy’n hynod o hapus i’r cefnogwyr a phawb arall oherwydd ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol arall, felly byddwn yn dyfalbarhau.

“Mae’n rhaid i’r Fflint ddod atom ni felly bydd hi’n gêm gartref gyda’n holl gefnogwyr y tu ôl i ni.”