Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael dirwy gan FIFA ar ôl i gefnogwyr ddefnyddio tân gwyllt yn ystod gêm ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Awstria ar Fawrth 24.

Mewn datganiad, mae’r Gymdeithas yn dweud eu bod nhw’n derbyn y ddirwy, gan “rybuddio cefnogwyr yn gryf” fod tân gwyllt yn beryglus i wylwyr, chwaraewyr a swyddogion a bod modd colli braich, coes neu eich golwg, neu achosi’r perygl o ganser.

Maen nhw’n dweud bod cario tân gwyllt i mewn i gêm yn drosedd, a bod modd i bobol gael eu harestio a’u gwahardd rhag mynd i gemau.

Maen nhw’n dweud ymhellach y byddan nhw’n cydweithio â Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gemau ym mis Mehefin i atal y defnydd o dân gwyllt, ac yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw droseddwyr.

Mae’r mesurau hyn yn berthnasol i gemau clwb hefyd, meddai’r Gymdeithas Bêl-droed.