Bydd ‘Baby’ Jake Robinson, mab un o arwyr paffio yng Nghymru Steve Robinson, yn ymladd am deitl pwysau plu y Gymanwlad yn Glasgow heno (nos Wener, Mai 13).

Enillodd Steve Robinson, sy’n cael ei adnabod fel y ‘Cinderella man’, deitl byd y WBO ym 1993, gan gytuno i ymladd yr ornest enwog gyda 24 awr o rybudd yn unig. Aeth yn ei flaen i amddiffyn ei deitl yn llwyddiannus ar saith achlysur.

Yn wahanol i feibion ​​​​pencampwyr byd eraill, mae ‘Baby’ Jake wedi gweithio ei ffordd i fyny trwy waith caled a diflino dros y blynyddoedd diwethaf.

Wedi’i goroni’n Bencampwr Cenedlaethol Cymru fis Tachwedd y llynedd, mae gan ‘Baby’ Jake record proffesiynol di-guro, gan ennill naw gornest.

Bydd ‘Baby’ Jake yn mentro i ffau’r llewod yn Glasgow wrth i’r ymladdwr oddi cartref wynebu’r arwr lleol Nathaniel Collins, sydd erioed wedi colli gornest fel bocsiwr proffesiynol chwaith.

Er gwaethaf ei record berffaith, mae ‘Baby’ Jake, fel ei dad yr holl flynyddoedd yn ôl, yn camu i’r cylch fel yr ymladdwr gwannaf o’r ddau, gyda Ladbrokes yn cynnig 7/2 o’i blaid.

‘Cyfle penigamp’

“Mae ymladd am deitl y Gymanwlad yn gyfle penigamp,” meddai ‘Baby’ Jake Robinson.

“Fy mywyd cyfan, rwyf wedi breuddwydio am ddod yn bencampwr byd, mae teitl y Gymanwlad yn garreg filltir bwysig ar y daith honno.

“Cymro ydw i ac rydyn ni’n ymladdwyr, alla i ddim aros i gamu i’r cylch bocsio.

“Mae ein cefndryd Celtaidd yn yr Alban yn bobl angerddol fel ni.

“Bydd yr awyrgylch yn drydanol a bydd cael profi hynny’n anhygoel.

“Dw i’n disgwyl derbyniad tanbaid yn y cylch ac allan ohoni.

“Mae gen i fy sgiliau, mae gennym gynllun mewn lle a dw i’n benderfynol o fynd â’r teitl adref gyda fi.”