Mae tîm criced Morgannwg dan bwysau ar ddiwedd diwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn Durham.
Ar ôl sgorio’r canred cyflymaf i’r sir yn eu gêm ddiwethaf, tarodd Ben Stokes, capten newydd Lloegr, 82 wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 311.
Wrth ymateb, mae Morgannwg yn 31 am ddwy yn eu batiad cyntaf nhw.
Sgoriodd Ben Stokes 161 yn erbyn Swydd Gaerwrangon yr wythnos ddiwethaf, a fe oedd prif sgoriwr Durham heddiw, gyda Keegan Petersen hefyd yn sgorio 78.
Cipiodd Michael Hogan bedair wiced am 67, gan gynnwys Stokes ac mae’n debygol fod tynged Morgannwg bellach yn nwylo Marnus Labuschagne, fydd yn dychwelyd i Awstralia’n fuan i chwarae i’r tîm cenedlaethol.
Mae e wrth y llain, heb fod allan ar 16.
Manylion
Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu bowlio, gan wynebu Sean Dickson, prif sgoriwr y Bencampwriaeth cyn dechrau’r ornest hon.
Pum rhediad yn unig sgoriodd e, serch hynny, cyn i Michael Neser ddarganfod ymyl ei fat i roi daliad i Sam Northeast yn y slip.
Adeiladodd Keegan Petersen ac Alex Lees bartneriaeth o 62 wedyn, a chwympodd wiced Lees chwe wiced yn brin o’i hanner canred wrth iddo gael ei fowlio gan y capten David Lloyd.
Collodd Durham wicedi Scott Borthwick, wedi’i ddal gan Kiran Carlson oddi ar fowlio Michael Hogan, a David Bedingham, oedd wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan Andy Gorvin, cyn i Petersen gyrraedd ei hanner canred am yr ail gêm yn olynol.
Ond gallai’r batiwr o Dde Affrica fod wedi colli ei wiced ddwywaith yn erbyn Neser, gan daro bownsar at y wicedwr Chris Cooke ac at Andrew Salter yn y slip.
Ergyd lac oedd yn gyfrifol am ei wiced yn y pen draw, wrth iddo roi daliad i Marnus Labuschagne oddi ar fowlio Lloyd.
Batiodd Stokes yn ofalus tra bod Petersen wrth y llain, ond fe ddechreuodd e ergydio wedyn, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 74 o belenni.
Adeiladodd Stokes a Ben Raine bartneriaeth o 61 wrth i Durham glosio at 300, ond cipiodd Hogan wiced Stokes gyda’r bêl newydd gan roi daliad i Cooke oddi ar belen oedd yn codi ar y batiwr.
Cipiodd Hogan wicedi Matthew Potts a Brydon Carse wedyn i ddirwyn y batiad i ben, y naill wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced a’r llall wedi’i ddal gan Cooke.
Batiad Morgannwg
Potts oedd yn gyfrifol am ddwy wiced Morgannwg ar ddiwedd y dydd.
Cafodd Andrew Salter ei ddal gan Dickson yn yr ail belawd, cyn i Andy Gorvin gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced ddwy belawd yn ddiweddarach.
Dydy Morgannwg ddim allan ohoni eto, ond mae ganddyn nhw gryn waith i’w wneud ar yr ail ddiwrnod i achub y sefyllfa.
‘Braf cipio wicedi hwyr’
“Roedd hi’n braf cipio’r wicedi tua diwedd y dydd,” meddai Michael Hogan.
“Yn amlwg, roedden ni’n hapus i’w cael nhw allan ar ôl gwahodd Durham i fatio, ond sgorion nhw fwy o rediadau nag y bydden ni wedi’i hoffi.
“Gobeithio bod y tywydd yn braf fory ac y gallwn ni sgorio rhediadau.
“Mae Ben Stokes a Keegan Petersen yn chwaraewyr o safon ac ar un adeg, roedd hi’n argoeli’n wael.
“Roedd y llain i fyny ac i lawr rywfaint, ac ro’n i’n gallu ei chael hi i adlamu ychydig yn fwy fel ei bod hi’n bwrw menig Stokes.
“Mae’n braf cael profi’ch hun yn erbyn y chwaraewyr hyn.
“Bydden ni wedi hoffi rhagor o wicedi yn gynharach yn y dydd, ond roedd y llain yn chwarae’n eitha’ da. Mae’n debyg fod gan Durham sgôr cyffredin ar y llain hon.
“Rhaid i ni gredu ynom ni’n hunain i gael blaenoriaeth, ond mae ganddyn nhw fowlwyr o safon.
“Mae’n mynd i fod yn her, ond roedd Marnus Labuschagne yn edrych yn dda, felly gobeithio y gallwn ni sgorio rhagor fory i fynd y tu hwnt i’w sgôr nhw.”