Mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Durham ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Mai 12).
Byddan nhw’n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerlŷr yn eu gêm ddiwethaf, oedd wedi eu codi nhw i frig y tabl am gyfnod ond sy’n eu gweld nhw’n dechrau’r gêm hon yn yr ail safle.
Mae’r batiwr llaw chwith Billy Root yn cadw ei le yn y garfan ar ôl plesio i’r ail dîm gyda chanred di-guro yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghasnewydd yr wythnos hon, tra bod y bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy wedi’i gynnwys am y tro cyntaf y tymor hwn, gyda’r Iseldirwr Timm van der Gugten yn dychwelyd ar ôl anaf i linyn y gâr.
Yng ngharfan Durham mae Ben Stokes, sydd newydd ei enwi’n gapten ar dîm prawf Lloegr yn ddiweddar.
‘Tîm anodd i’w curo ar eu tomen eu hunain’
“Dw i’n falch iawn efo’r bloc cyntaf, un gêm eto a bydd hi’n ymdrech lew i fyny yn Durham, sy’n dîm cryf iawn,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.
“Mae’n bedwar diwrnod anodd i fyny yn Durham, maen nhw’n dîm cryf iawn. Byddan nhw’n wrthwynebwyr anodd, yn enwedig ar eu tomen eu hunain.
“Mae cael Stokes yn y tîm yn dipyn o hwb iddyn nhw. Mae o o’r safon uchaf, yn chwaraewr gwych.”
Yn ei gêm gyntaf yn ôl yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, sgoriodd Stokes 161 yn erbyn Swydd Gaerwrangon, gan gyrraedd ei ganred oddi ar 64 o belenni – y canred cyflymaf erioed i’r sir – a tharo 17 ergyd chwech yn ystod y batiad.
“Dangosodd o yn y batiad hwnnw’n dod yn ôl pa mor ddinistriol mae o’n gallu bod ym mhob fformat,” meddai Matthew Maynard.
“Ddaru ni ei weld o’n ei gwneud hi yn erbyn yr Awstraliaid yn Headingly ychydig flynyddoedd yn ôl.
“Mae o’n chwaraewr o safon fyd-eang, felly yn amlwg mi fydd hi’n her chwarae yn ei erbyn o.
“Ond mae gynnon nhw lawer o chwaraewyr da, a fo ydi’r eisin ar y gacen os liciwch chi.”
Gemau’r gorffennol
Dyma’r ail waith i Forgannwg a Durham herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth eleni, gyda’r gêm yng Nghaerdydd ddechrau mis Ebrill yn gorffen yn gyfartal ar ôl i agorwr y Saeson, Alex Lees gario’i fat wrth sgorio 82 heb fod allan.
Sgoriodd Colin Ingram 87 i Forgannwg, tra bod Chris Cooke wedi sgorio dau hanner canred, gyda’r troellwr Andrew Salter hefyd yn cipio’i ffigurau bowlio gorau erioed, sef saith wiced am 45 ar y bore olaf.
Mae’r timau wedi herio’i gilydd ddeg gwaith yn y Bencampwriaeth yn Durham, gyda Morgannwg yn colli’n drwm o fatiad a 42 rhediad ar eu hymweliad diwethaf â stadiwm Riverside fis Medi diwethaf.
Cawson nhw eu bowlio allan am 97 yn eu batiad cyntaf, cyn i Hamish Rutherford sgorio 71 yn yr ail fatiad, Dan Douthwaite 96 a Salter 90, ei sgôr gorau erioed.
Yn 2019, dim ond 86.4 pelawd oedd yn bosib ar draws y pedwar diwrnod oherwydd y glaw, a chollodd Morgannwg o naw wiced yn 2017, eu hymweliad cyntaf ers 2004 pan enillodd Morgannwg o 201 o rediadau diolch i Mike Powell (124), a’r bowlwyr David Harrison ac Alex Wharf a gipiodd bum wiced yr un.
Honno oedd eu trydedd buddugoliaeth mewn tri thymor yn Durham, gyda buddugoliaeth o 369 o rediadau yn 2003 ac o ddeg wiced yn 2002, gyda’r Awstraliad Michael Kasprowicz yn serennu yn y ddwy gêm gyda naw wiced am 45 yn yr ail, ar ôl i Mark Wallace, Mike Powell a Matthew Maynard sgorio canred yr un.
Carfan Durham: D Bedingham, S Borthwick (capten), B Carse, S Dickson, N Eckersley, M Jones, A Lees, K Petersen, M Potts, B Raine, C Rushworth, M Salisbury, B Stokes, L Trevaskis
Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), K Carlson, C Cooke, A Gorvin, J Harris, M Hogan, M Labuschagne, J McIlroy, M Neser, S Northeast, B Root, A Salter, T van der Gugten, J Weighell