Mae’r Gwyddel Pádraig Amond wedi datgelu bod ei gyfnod gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd wedi dod i ben ar ôl pum mlynedd gyda’r clwb.

Mae’r ymosodwr 34 oed yn dweud ei fod e wedi clywed y newyddion yn ystod sgwrs ffôn oedd wedi para 25 eiliad.

Bydd ei gytundeb yn dod i ben yn yr haf, a hynny ar ôl tymor ar fenthyg yng Nghaerwysg, lle bu’n allweddol wrth helpu’r clwb i ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Alltudion, sgoriodd e sawl gôl fydd yn aros yn hir yn y cof, gan gynnwys y rheiny yn erbyn Manchester City, Leicester City a Middlesbrough yng Nghwpan FA Lloegr.

Er ei fod e wedi colli ei le yn y tîm pan oedd Michael Flynn wrth y llyw, mae e wedi datgelu nad oedd e’n hapus gyda’r ffordd y clywodd e’r newyddion gan y rheolwr newydd James Rowberry yr wythnos hon, yn ôl adroddiadau’r wasg yn Iwerddon.

Mae’n debyg fod Amond yn cymryd rhan yn nathliadau Caerwysg pan gafodd e’r alwad ffôn yn cadarnhau ei ddyfodol, a bod Rowberry wedi treulio “10 i 12 eiliad” yn dweud ei fod e wedi newid ei rif ffôn, ac mae’n dweud bod y cyfan wedi digwydd “mor gyflym” a bod y sefyllfa’n ei “frifo”.