Mae deiseb wedi’i sefydlu i ddenu gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol yn ôl i’r Cae Ras yn Wrecsam.

Mae’r ddeiseb wedi’i sefydlu gan griw o’r enw ‘Stadiwm i’r Gogledd’, ac maen nhw’n galw’r ddeiseb yn “gofrestr gefnogaeth”.

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud cais Codi’r Gwastad (‘Levelling Up’) dan yr enw ‘Porth Wrecsam’, sy’n cynnwys cyllid ar gyfer eisteddle i hyd at 5,500 o bobol, gwell cyfleusterau darlledu, cyfryngau a llifoleuadau, maes parcio aml-lawr i hyd at 400 o gerbydau, a gwaith paratoi tir i godi canolfan gynadledda a gwesty.

Mae’r cais yn gyfuniad o arian cyhoeddus a phreifat, ac fe fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf, a bydd y Gofrestr Gefnogaeth yn cael ei chyflwyno i adrannau’r Llywodraeth fydd yn penderfynu ar ddyfodol ceisiadau.

“Trwy lofnodi’r gofrestr gefnogaeth hon rydych yn ychwanegu eich llais chi at gais Cyngor Wrecsam am gyllid,” meddai’r ddeiseb, gan ychwanegu bod cyllid yn hanfodol os ydyn nhw am ddenu chwaraeon rhyngwladol i’r Cae Ras eto.

Pam rydyn ni’n gwneud hyn?

Ar hyn o bryd does dim cyfleusterau yng ngogledd Cymru sy’n addas ar gyfer pêl-droed na rygbi rhyngwladol, ac felly o reidrwydd, mae’n rhaid chwarae pob gêm ryngwladol mewn ardal i’r de o’r M4 yng Nghymru, meddai’r ddeiseb wedyn.

“Oherwydd y diffyg cyfleusterau yma mae llawer o bobl ifanc a theuluoedd ar hyd a lled y Gogledd a’r Canolbarth yn cael eu cau allan o’r digwyddiadau hyn i bob pwrpas oherwydd y gost ac, mewn rhai achosion, y ffaith fod y digwyddiadau’n cael eu cynnal yng nghanol yr wythnos.

“Gall manteision iechyd hirdymor ddeillio o ysbrydoli pobol ifanc i gyfranogi mewn chwaraeon, ac mae cael mynediad i gemau rhyngwladol yn gallu chwarae rhan bwysig o ran denu cyfranogiad.

“Ymgyrch positif ar lawr gwlad yw hwn i ddangos cryfder teimladau a chefnogaeth pobol ledled Cymru i gais Cyngor Wrecsam. Byddai cais llwyddiannus yn datgloi ailddatblygiad y Cae Ras i ddarparu stadiwm o safon ryngwladol ar gyfer y cyfan o’r Gogledd a’r Canolbarth.”

Mae modd dilyn yr ymgyrch ar @StadiumNorth (Twitter) a @StadiumForTheNorth (Facebook).