Wrth i’r tymor domestig dynnu at ei derfyn, mae llai na phythefnos nes y bydd Rob Page yn enwi ei garfan ar gyfer gemau mawr mis Mehefin. Dim llawer o gyfleoedd ar ôl i greu argraff ar y rheolwr cenedlaethol felly.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Cafwyd perfformiad arwrol gan Ben Davies yn amddiffyn Tottenham wrth iddynt gael pwynt digon parchus yn erbyn Lerpwl yn Anfield nos Sadwrn. Â hwythau’n gorfod bodloni ar draean y meddiant yn erbyn Lerpwl, bu’n rhaid i Davies a’i griw amddiffyn am eu bywydau i sicrhau canlyniad un gôl yr un. Edmygu o’r fainc a oedd yr unig beth y gallai Joe Rodon ei wneud.

Nid oedd hi’n ddiwrnod cystal i amddiffynnwr arall o Gastell Nedd, colli fu hanes Connor Roberts gyda Burnley. Roedd rhediad diweddar da wedi rhoi gobaith iddynt osgoi’r gwymp ond maent yn ôl yn ei chanol hi eto ar ôl colli o dair gôl i un yn erbyn Aston Villa. Chwaraeodd Roberts y gêm gyfan ac roedd Wayne Hennessey ar y fainc.

Gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn cadw Burnley allan o’r tri isaf wedi i Everton ennill ddydd Sul a Leeds sydd bellach yn y deunawfed safle ar ôl iddynt hwy golli o ddwy gôl i un yn erbyn Arsenal. Chwaraeodd Dan James y gêm gyfan ond mae’n ymddangos yn gynyddol debyg y bydd dau Gymro yn disgyn y tymor hwn, unai Roberts a Hennessey gyda Burnley neu James a Tyler Roberts gyda Leeds.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Fin Stevens wrth i dymor gwych Brentford barhau gyda buddugoliaeth o dair i ddim dros Southampton dydd Sadwrn. Ar y fainc yr oedd Danny ward i Gaerlŷr ddydd Sul hefyd.

Goruchwyliodd Tony Roberts ganlyniad da iawn i Wolves yn erbyn Chelsea. Hyfforddwr gôl-geidwaid Cymru a Wolves a oedd yng ngofal y tîm ddydd Sadwrn wrth iddynt daro nôl i achub pwynt ar ôl bod ddwy gôl i ddim ar ei hôl hi yn Stamford Bridge.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Gorffennodd Abertawe dymor braidd yn siomedig yn bymthegfed yn y Bencampwriaeth ar ôl colli o gôl i ddim yn erbyn QPR ar y Sadwrn olaf. Nid oedd Ben Cabango yn y garfan ond dechreuodd y bachgen ifanc Cameron Congreve gêm am y tro cyntaf yn Stadiwm Swansea.com. Chwaraeodd George Thomas ychydig dros awr i’r ymwelwyr.

Bu’n dymor gwael i Gaerdydd hefyd ond o leiaf fe gafodd yr Adar Gleision fuddugoliaeth yn erbyn Derby yn eu gêm olaf. Dechreuodd Mark Harris ac Eli King y gêm a chwaraeodd King ran yn unig gôl y gêm, yn creu i Jordan Hugill yn gynnar yn yr ail hanner. Daeth Isaak Davies ymlaen yn lle King yn fuan wedi hynny ond bu’n rhaid i’r eilydd gael ei eilyddio oherwydd anaf wedi dim ond chwarter awr ar y cae. Dechrau ar y fainc a wnaeth Rubin Colwill hefyd cyn chwarae’r ail hanner ond nid oedd Will Vaulks yn y garfan.

Tom Lawrence a edrychodd fwyaf tebygol o sgorio i Derby yn ei awr ef ar y cae. Tybed a wnaiff o aros gyda’r tîm yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf?

Creodd Harry Wilson dair o saith gôl Fulham wrth iddynt gipio teitl y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Luton nos Lun. Nid oes neb wedi creu mwy o goliau na’r Cymro yn y gynghrair y tymor hwn, ugain i gyd. Nid oedd yn y garfan ar gyfer y gêm olaf serch hynny, na Neco Williams ychwaith.

Sheffield United a oedd gwrthwynebwyr Fulham yn y gêm honno ond eilyddion heb eu defnyddio a oedd Adam Davies a Rhys Norrington-Davies i’r Blades wrth iddynt gael buddugoliaeth annisgwyl o bedair gôl i ddim yn erbyn y pencampwyr a sicrhau eu lle hwy yn y gemau ail gyfle yn y broses.

Bournemouth a orffennodd yn ail, gyda’r diolch yn bennaf i goliau diwedd tymor Kieffer Moore. Sgoriodd y Cymro bedair gôl mewn tri ymddangosiad fel eilydd ar ôl dychwelyd i’r garfan wedi anaf. Rhwydodd unig gôl y gêm yn erbyn Nottingham Forest ganol wythnos cyn gwneud yr un peth eto yn erbyn Millwall ar y penwythnos.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham i’r Cherries a chwaraeodd Tom Bradshaw y chwarter awr olaf i Millwall. Ond heb os y newyddion mawr yn Bornemouth yr wythnos hon oedd hwnnw am David Brooks, a gyhoeddodd ei fod wedi gwella’n llwyr yn dilyn triniaeth cancr.

Yn ymuno â Sheffield United yn y gemau ail gyfle y mae Huddersfield, Nottingham Forest a Luton. Nid oedd Sorba Thomas yng ngharfan Huddersfield ar gyfer eu buddugoliaeth hwy o ddwy i ddim yn erbyn Bristol City ond ymddangosodd Andy King oddi ar y fainc i’r gwrthwynebwyr. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Tom Lockyer wrth i Luton drechu Reading o gôl i ddim.

Er iddo ddechrau ar y fainc i Forest yn Hull, daeth Brennan Johnson oddi arni i sgorio cic o’r smotyn hwyr mewn gêm gyfartal gôl yr un.

Roedd hi’n frwydr rhwng dau golwr o Gymru yn Peterborough wrth i dîm Dave Cornell groesawu Blackpool Chris Maxwell. Cornell a gafodd y gorau o bethau, yn cadw llechen lân tra’r oedd ei gydwladwr yn ildio pump yn y pen arall!

Ni welwyd yr un Cymro ar y cae yn Deepdale wrth i Preston guro Middlesbrough ar y Sadwrn olaf. Roedd Ched Evans ar y fainc ac Andrew Hughes allan o’r garfan i’r tîm cartref ac nid oedd Neil Taylor yno i Boro ychwaith.

Chwaraeodd Morgan Fox a Joe Allen y gêm gyfan wrth i Stoke orffen y tymor gyda gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Coventry. Daeth James Chester oddi ar y fainc ar gyfer yr ugain munud olaf hefyd. Mae Allen a Chester allan o gytundeb ar ddiwedd y tymor, gyda sïon yn cysylltu Allen ag Abertawe a Chester ag ymddeoliad.

Roedd buddugoliaeth o ddwy gôl i un i Blackburn yn erbyn Birmingham. Dechreuodd Ryan Hedges y gêm i Rovers gan greu’r gôl agoriadol i John Buckley. Chwaraeodd Jordan James y gêm gyfan i Birmingham gan greu eu gôl gysur hwyr hwythau.

 

*

 

Cynghreiriau is

Mae’r tymor arferol wedi gorffen yn yr Adran Gyntaf a’r gemau ail gyfle eisoes wedi dechrau. Ar ôl sgorio yn erbyn Burton y penwythnos diwethaf i sicrhau lle Wycombe yn y gemau hynny, fe rwydodd Sam Vokes eto wrth iddynt guro’r MK Dons o ddwy i ddim yng nghymal cyntaf y rownd gynderfynol nos Iau. Roedd Cymro yn rhan o’r gôl arall hefyd, Joe Jacobson yn creu i Ryan Tafazolli. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matthew Smith i’r gwrthwynebwyr.

Sgoriodd Nathan Broadhead ar benwythnos olaf y tymor arferol hefyd i sicrhau lle Sunderland yn y gemau ail gyfle ond ar ôl dioddef anaf yn y gêm honno, nid oedd yn y garfan ar gyfer y gêm gynderfynol yn erbyn Sheffield Wednesday nos Wener.

Sicrhaodd Swindon eu lle yng ngemau ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn Walsall. Dechreuodd Jonny Williams y gêm gan chwarae ychydig llai nag awr.

Roedd Tom King a Liam Shephard yn nhîm Salford a gollodd o bedair i ddwy yn Stevenage, a hynny er i gôl gynnar Shephard eu rhoi ar y blaen.

Roedd Aaron Collins yn rhan o gêm aruthrol ym Mryste ddydd Sadwrn. Oherwydd canlyniadau eraill, roedd angen buddugoliaeth o saith gôl ar Bristol Rovers yn erbyn Scunthorpe i neidio i’r tri uchaf a sicrhau dyrchafiad i’r Adran Gyntaf. A gyda’r Cymro Collins yn cyfrannu dwy o’r goliau, dyna’n union a wnaethant, ennill o saith gôl i ddim! Mae’r blaenwr yn gorffen y tymor gyda deunaw gôl.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Sicrhaodd Celtic deitl Uwch Gynghrair yr Alban i bob pwrpas gyda buddugoliaeth o bedair gôl i un dros Hearts ddydd Sadwrn. Daeth Ben Woodburn oddi ar y fainc am y deg munud olaf i Hearts.

Ym mhen arall y tabl, roedd gêm gyfartal gôl yr un yn ddigon i gadw Aberdeen a Hibs yn y gynghrair yn dilyn tymor siomedig tu hwnt. Chwaraeodd Marley Watkins ychydig dros awr i Aberdeen ond nid oedd Christian Doidge yng ngharfan Hibs.

Chwaraeodd Morgan Boyes y gêm gyfan wrth i Livingston gael gêm gyfartal yn erbyn St Johnstone ond mae tymor Alex Samuel gyda Ross County ar ben wedi i’r blaenwr gael triniaeth yn ddiweddar am anaf cas i’w ben glin.

Ar ôl dychwelyd i fainc Rangers ar gyfer eu buddugoliaeth fawr Ewropeaidd yn erbyn RB Leipzig ganol wythnos, fe ddechreuodd Aaron Ramsey y erbyn Dundee United yn y gynghrair ddydd Sul. Ennill o ddwy gôl i ddim a wnaeth ei dîm gyda’r Cymro yn chwarae rhan fwyaf o’r gêm cyn cael ei eilyddio. Ond gyda’r gynghrair fwy neu lai allan o’u cyrraedd, troi eu golygon at rownd derfynol Cynghrair Europa yn erbyn Eintracht Frankfurt ymhen deg diwrnod a wnaiff Ramsey a’r gweddill bellach. Chwaraeodd Dylan Levitt y gêm gyfan i Dundee United.

Parhau y mae diweddglo siomedig St Pauli i’r tymor yn ail haen yr Almaen. Ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor ar frig y 2. Bundesliga, yn dilyn rhediad gwael ar ddiwedd y tymor maent bellach yn annhebygol iawn o gyrraedd y gemau ail gyfle hyd yn oed. Colled o dair i ddwy yn erbyn Schalke a oedd y canlyniad diweddaraf ond gwylio o’r fainc a wnaeth James Lawrence.

Tîm arall sydd wedi gorffen y tymor gyda rhediad gwael yw Venezia yn yr Eidal. Cawsant fuddugoliaeth dda o bedair gôl i dair yn erbyn Bologna ddydd Sul i gadw’i gobeithion main o aros yn Serie A yn fyw am ychydig oriau yn rhagor o leiaf ond efallai mai rhy ychydig rhy hwyr a fydd hynny gan fod dau o’r timau uwch eu pennau, Salernitana a Caligari yn wynebu’i gilydd yn hwyrach ddydd Sul. Nid oedd Ethan Ampadu yn y garfan ar ôl derbyn cerdyn coch (arall) mewn colled arwyddocaol yn erbyn Salernitana nos Iau. Mae’r Cymro wedi cael tymor da yn yr Eidal ond mae ei ddiffyg disgyblaeth yn parhau i fod yn broblem.

Mae tymor Real Madrid yn mynd o nerth i nerth yn Sbaen, yn sicrhau teitl La Liga gyda buddugoliaeth yn erbyn Espanyol yr wythnos diwethaf cyn bachu lle yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda buddugoliaeth ddramatig dros Man City nos Fercher. Nid oedd Gareth Bale yn y garfan ar gyfer y naill gêm na’r llall, a go brin y gwelwn ef yn y darbi yn erbyn Atletico nos Sul ychwaith. Dywedodd fod ganddo gefn gwael…