Mae tîm criced Morgannwg wedi codi i frig ail adran y Bencampwriaeth – am y tro o leiaf – ar ôl curo Swydd Gaerlŷr o chwe wiced ar ddiwrnod ola’r gêm yng Nghaerdydd.

Roedd gan yr ymwelwyr dair wiced yn weddill o’u hail fatiad ar ddechrau’r dydd, ond dim ond 41 rhediad ar y blaen oedden nhw.

Tarodd Ben Mike 64 a’r capten dros dro Callum Parkinson 29 i sicrhau bod gan Forgannwg nod o 149 ar y prynhawn olaf.

Daeth batwyr Morgannwg allan yn barod i ymosod wrth gwrso’r nod, gyda’r capten David Lloyd yn arwain drwy esiampl, ond bu’n rhaid iddyn nhw fod yn amyneddgar wrth i Parkinson, y troellwr llaw chwith, gipio tair wiced i arafu’r diweddglo ryw fymryn.

Ond cyrhaeddodd y sir Gymreig y nod mewn 40.4 o belawdau, gyda Sam Northeast heb fod allan ar 40, a bowlwyr y Saeson heb amheuaeth yn siomedig eu bod nhw wedi ildio cynifer o rediadau oddi ar belenni anghyfreithlon ac ychwanegiadau’n gyffredinol (82 i gyd).

Diwedd batiad Swydd Gaerlŷr

Batiodd Ben Mike a Callum Parkinson yn ddigon cadarn ar y bore olaf.

Ar ôl i Mike golli allan ar y cyfle am ganred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf yn ei gêm ddiwethaf yn erbyn Middlesex (99 heb fod allan), fe sicrhaodd e y tro hwn fod ei dîm yn mynd adref heb unrhyw fath o embaras.

Adeiladodd y ddau bartneriaeth o 88, ond daeth batiad Mike i ben yn fuan ar ôl i Forgannwg gymryd y bêl newydd, wrth iddo dynnu pelen gan Michael Hogan yn syth at y wicedwr Chris Cooke wrth aros i’r bêl ddychwelyd o gryn uchder.

Andy Gorvin, yn ei gêm gyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf i Forgannwg, gafodd y cyfrifoldeb o fowlio gyda’r bêl newydd, ac fe darodd e goes Chris Wright o flaen y wiced am dri, cyn i’r batiad ddod i ben pan gafodd Beuran Hendricks ei fowlio gan Hogan.

Roedd y Saeson i gyd allan am 266, felly, gyda nod o 150 i Forgannwg.

Morgannwg yn cwrso

Yn ystod ail hanner gêm fawr i dîm pêl-droed Wrecsam, fe gollodd un o’u cefnogwyr, David Lloyd, ei wiced ar ôl taro 36 oddi ar 32 o belenni.

Cafodd Lloyd ei fowlio gan Parkinson wrth geisio sgubo pelen gan y troellwr.

Ar ôl batio’n gadarn gyda’i gilydd yn y batiad cyntaf, ychwanegodd Sam Northeast a Kiran Carlson 35 at y sgôr yn yr ail fatiad cyn i Carlson gael ei ddal gan Mike oddi ar fowlio Scott Steel am 13.

Ond roedd Northeast wrth y llain ar 40 pan gipiodd Morgannwg y fuddugoliaeth a chyfanswm o 23 o bwyntiau.

Ymateb

“Mae hi wedi bod yn llain griced dda iawn, aeth hi ychydig yn fwy fflat o safbwynt y bowlwyr sêm a llwyddodd Parkinson i’w throi hi rywfaint, ddaru nhw wneud i ni weithio ond rydan ni wedi dod i ffwrdd efo buddugoliaeth roeddan ni’n ei haeddu,” meddai Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Ddaru ni gadw eu gwthio nhw’n ôl yn galetach, a chreu rhai cyfleoedd yn y batiad cyntaf i gael blaenoriaeth o 117, ac wedyn wedi bowlio’n dda i’w rhoi nhw yn y sefyllfa honno dros nos.

“Chwaraeodd Parkinson a Mike yn dda iawn, ond mae’n wych gweld yr hogyn mawr [Michael Hogan] yn cipio dwy wiced efo’r bêl newydd, mae o wedi bod yn anhygoel yn y pum gêm dwytha’.

“Ddaru ni weld wsnos dwytha’ pa mor bwyllog ddaru Sam Northeast arwain wrth gwrso yn erbyn Swydd Derby, ac mae o’r math o chwaraewr, os ydach chi’n batio’r pen arall, rydach chi’n dysgu tipyn oddi wrtho fo.

“Dw i’n falch iawn efo’r bloc cyntaf, un gêm eto ac mi fydd hi’n ymdrech lew yn Durham, sy’n dîm cryf iawn.”

Sgorfwrdd

Gerddi Sophia

Morgannwg yn closio at fuddugoliaeth dros Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd

Mae gan yr ymwelwyr flaenoriaeth fach, ond dim ond tair wiced o’u hail fatiad yn weddill

Morgannwg yn cau’r bwlch yn y batiad cyntaf yng Nghaerdydd

Mae Swydd Gaerlŷr ar y blaen o 15 rhediad, gyda phum wiced yn weddill o fatiad Morgannwg
Marnus Labuschagne

Troellwr coes yn troi’r gêm ar ei phen i Forgannwg

Tair wiced i Marnus Labuschagne ar y diwrnod cyntaf yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd
Andy Gorvin

Chwaraewr amryddawn Sain Ffagan yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i Forgannwg

Swydd Gaerlŷr yw’r ymwelwyr ar gyfer y gêm Bencampwriaeth sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Mai 5)