Mae tîm criced Morgannwg ar ei hôl hi o 15 rhediad yn eu batiad cyntaf ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd.

Mae’r tîm cartre’n 305 am bump.

Roedd gan yr ymwelwyr ddwy wiced yn weddill o’u batiad cyntaf ar ddechrau’r dydd, ac fe lwyddon nhw i gyrraedd 320 diolch i Callum Parkinson a Chris Wright yn niwedd y batiad.

Collodd Morgannwg dair wiced gynnar, ond roedden nhw’n rheoli’n llwyr erbyn diwedd sesiwn y prynhawn, diolch i bartneriaeth allweddol rhwng Kiran Carlson a Sam Northeast.

Tarodd y Cymro Carlson 91, a Northeast 84, ond collon nhw eu wicedi yn y sesiwn olaf, gyda’r gêm yn y fantol ar drothwy’r trydydd diwrnod.

Manylion

Dechreuodd y Saeson ar 285 am wyth, ac fe lwyddon nhw i sgorio 300 mewn batiad am y tro cyntaf y tymor hwn, diolch i bartneriaeth o 43 rhwng Parkinson a Wright, a ddaeth i ben pan gafodd Wright ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Parkinson ei redeg allan gan Marnus Labuschagne, y trydydd batiwr i golli ei wiced yn y modd hwnnw.

Dechreuodd bowlwyr y Saeson yn gryf, wrth i Wright gipio wiced y capten David Lloyd, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Harry Swindells, cyn i Labuschagne ac Andrew Salter adeiladu partneriaeth bwysig o 52.

Cafodd Labuschagne ei ollwng yn gynnar yn y batiad, ond roedd e allan am 17 yn y pen draw wrth geisio bachu pelen gan Ben Mike a chael ei ddal gan Scott Steel ar drothwy amser cinio.

Roedd Morgannwg yn 63 am dair ar ôl cinio pan gafodd Salter ei ddal gan Swindells oddi ar fowlio Wright, cyn i Carlson a Northeast adeiladu partneriaeth o 182, partneriaeth orau’r sir y tymor hwn o bell ffordd.

Ond tarodd Wright goes Carlson o flaen y wiced i ddod â’i fatiad i ben, gyda Northeast allan yn yr un modd oddi ar fowlio Mike – mae Northeast bellach wedi sgorio 81, 85 ac 84 ar ddechrau ei yrfa gyda Morgannwg ar ôl symud i Gymru ar ddechrau’r tymor.

Andy Gorvin a Chris Cooke oedd wrth y llain pan ddaeth y chwarae i ben am y dydd yn sgil golau gwael.

“Dw i’n credu mai ein nod ni ar gyfer y diwrnod i ddod oedd cipio’r ddwy wiced yn gynnar, a batio’r diwrnod cyfan wedyn a gweld lle fydden ni,” meddai Kiran Carlson.

“Mae’n braf bod o fewn cyrraedd i’w sgôr nhw gydag ambell wiced yn weddill.

“Cawson ni rythm da, o fatio gyda [Sam Northeast], ac mae’n drueni na wnaethon ni’n dau fwrw iddi mwy.

“Byddai wedi bod yn braf bod â thair wiced i lawr ar ddiwedd y dydd, ond dyw e ddim wastad yn troi allan felly.

“Ro’n i’n falch iawn o gael adeiladu partneriaeth fawr gyda fe.

“Mae e’n ddyn profiadol iawn ac yn hamddenol iawn wrth y llain, a dw i’n meddwl fy mod i’n mwynhau hynny.”

Marnus Labuschagne

Troellwr coes yn troi’r gêm ar ei phen i Forgannwg

Tair wiced i Marnus Labuschagne ar y diwrnod cyntaf yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd
Andy Gorvin

Chwaraewr amryddawn Sain Ffagan yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i Forgannwg

Swydd Gaerlŷr yw’r ymwelwyr ar gyfer y gêm Bencampwriaeth sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Mai 5)