Mae Marnus Labuschagne, troellwr coes achlysurol Morgannwg, wedi troi’r gêm ar ei phen i’w dîm ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

O 151 am un, fe wnaeth yr ymwelwyr lithro i 285 am wyth erbyn diwedd y dydd, a hynny wrth i Labuschagne gipio tair wiced am 65.

Er gwaetha’r amheuon ar ddechrau’r dydd, fe wnaeth penderfyniad y capten David Lloyd i wahodd y Saeson i fatio dalu ar ei ganfed.

Manylion y dydd

Ar ôl penderfynu’n annisgwyl i fowlio’n gyntaf, doedd Morgannwg ddim wedi gallu manteisio ar y llain na’r amodau, er i Michael Neser a Michael Hogan gadw’r batwyr ar flaenau eu traed y naill ochr i’r llain a’r llall wrth ildio dim ond 14 rhediad yn eu deg pelawd cyntaf.

Doedd dim un ergyd i’r ffin am bron i 12 pelawd, ond prin oedd y cyfleoedd a ddaeth i fowlwyr Morgannwg gipio wiced chwaith, ac fe roddodd hynny’r cyfle i’r agorwyr Hassan Azad a Sam Evans ymlwybro tua’r bartneriaeth o 50 mewn ugain pelawd.

Erbyn amser cinio, roedd yr ymwelwyr yn 82 heb golli wiced, a doedd dim arwydd o hyd fod Morgannwg am gipio wiced ar lain a ddylai fod wedi cynnig rhywfaint o gymorth iddyn nhw yn ystod y bore.

Roedd sesiwn y prynhawn dipyn gwell i Forgannwg, wrth iddyn nhw lwyddo i gipio wicedi’r ddau fatiwr allweddol, Sam Evans a Hassan Azad. Evans oedd y batiwr cyntaf allan pan gafodd ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio Labuschagne, i ddod â phartneriaeth agoriadol o 90 i ben.

Yn fuan ar ôl cyrraedd ei hanner canred oddi ar 106 o belenni, ar ôl taro wyth pedwar, cafodd Azad ei redeg allan gan Sam Northeast wrth fentro am ail rediad ffôl, i adael ei dîm yn 152 am ddwy.

Sesiwn y bowlwyr

Os mai’r batwyr oedd wedi bod ar y blaen ran fwya’r dydd, eiddo’r bowlwyr oedd y sesiwn olaf, wrth i Forgannwg gipio chwe wiced am 117 rhediad.

Dechreuodd y gwymp pan gafodd Louis Kimber ei redeg allan gan Michael Neser am ddeg, ond roedd Rishi Patel yn ddigon ystyfnig ben draw’r llain wrth gyrraedd ei hanner canred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf gydag ergyd chwech oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter.

Ond fe wnaeth 199 am dair droi’n 199 am bump, diolch i ddwy wiced Labuschagne oddi ar ddwy belen, wrth daro coes Wiaan Mulder o flaen y wiced cyn bowlio Scott Steel oddi ar y belen ganlynol.

Cyniogiodd y wicedwr Harry Swindells rywfaint o obaith i’r batwyr wrth sgorio 22 cyn cael ei fowlio gan Neser, a’i dîm erbyn hynny’n 238 am chwech ond roedd eu gobeithion o gael sgôr uchel ar ben, i bob pwrpas, pan gafodd Patel ei fowlio gan James Harris am 82 i adael y Saeson yn 260 am saith, ac wedyn yn 268 am wyth pan gafodd Ben Mike ei fowlio gan James Weighell am 17.

Ar y cyfan, Morgannwg fydd yr hapusaf o’r ddau dîm, a bydd yn rhaid i’r ymwelwyr aros ychydig yn hirach eto i gyrraedd 300 am y tro cyntaf y tymor hwn.

Andy Gorvin

Chwaraewr amryddawn Sain Ffagan yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i Forgannwg

Swydd Gaerlŷr yw’r ymwelwyr ar gyfer y gêm Bencampwriaeth sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Mai 5)