Mae rhanbarth rygbi’r Scarlets yn dweud bod eu Llywydd Phil Bennett – cyn-faswr Llanelli, Cymru a’r Llewod – “yn brwydro fel gwir Scarlet yng ngofal ei deulu”.

Daw’r datganiad yn dilyn adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am ei gyflwr yn dilyn lluniau sydd wedi’u cyhoeddi yn dilyn digwyddiad dros y penwythnos.

Yn un o gewri’r gamp, enillodd e 29 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1978, gan ennill y Gamp Lawn ddwywaith a bod yn gapten yr ail waith a sgorio dau gais.