Mae disgwyl i Owain Doull symud allan o gysgod Geraint Thomas y penwythnos hwn, wrth i’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd gystadlu yn ras y Giro d’Italia, sydd wedi dechrau yn Hwngari.

16 o flynyddoedd yn ôl, roedd Geraint Thomas eisoes ar ei ffordd i fyny yn y gamp pan oedd Doull yn dechrau gyda’r Maindy Flyers.

Fe fu’r naill yng nghysgod y llall fyth ers hynny gyda Team Sky, neu Ineos Grenadiers yn ddiweddarach, wrth iddyn nhw gystadlu ledled Ewrop.

Ond y penwythnos hwn, Doull fydd yn hoelio’r sylw wrth iddo roi cynnig ar y Giro am y tro cyntaf, a’r cyfan yn fyw ar S4C.

Wrth i Geraint Thomas barhau i wella o anaf, bydd Doull yn cystadlu gyda thîm EF Education-EasyPost.

Yn ôl Alan Davis, yr hyfforddwr uchel ei barch fu’n gyfrifol am ddatblygu doniau Geraint Thomas, Owain Doull, Luke Rowe ac Elinor Barker ym Maindy Flyers, gallai newid timau fod yn drobwynt yng ngyrfa Doull, sydd bellach yn 29 oed.

“Dw i’n meddwl bod symud o Ineos yn rhoi cyfleoedd i Owain na fyddai e wedi’u cael fel arall, oherwydd mae carfan Ineos mor gryf,” meddai.

“Mae Geraint yn reidiwr gwirioneddol wych ac mae e wedi goleuo’r ffordd i reidwyr eraill o Gymru ei dilyn.

“Gobeithio gydag EF, bydd gan Owain y cyfle nawr i ddilyn y llwybr hwnnw.

“Mae lwc yn rhan fawr o unrhyw yrfa, ond pe bai’n dalent yn unig, yna dw i’n sicr y bydd Owain yn llwyddiant mawr.”

O’r cyfoethog i’r cŵl

Gyda’r holl arian sydd ar gael gan Ineos, mae’n golygu y bu modd i’r tîm ddenu enwau mawr y gamp atyn nhw, ond roedd hynny yn ei dro yn golygu mai unwaith yn unig ymddangosodd Owain Doull mewn Grand Tour.

Y Vuelta oedd honno, sef y ras fawr yn Sbaen, ym mis Awst a Medi 2019.

Fel arall, roedd presenoldeb cynifer o seiclwyr mawr yn golygu nad oedd gan Geraint Thomas, Chris Froome ac Egan Bernal rôl cynorthwyol yn aml iawn chwaith.

Pan symudodd Doull o Ineos i EF fis Medi y llynedd, fe wnaeth gwefan seiclo ddisgrifio’r trosglwyddiad fel un “o’r plant cyfoethog i’r plant cŵl”.

Does gan EF ddim enwau mawr, yn wahanol i Ineos, ond mae ganddyn nhw Magnus Cort o Ddenmarc, oedd yn fuddugol mewn tri chymal yn y Vuelta y llynedd, ond mae gan y tîm Americanaidd gryn ddilyniant serch hynny gan eu bod nhw mor lliwgar.

Mae Owain Doull yn sicr yn fwy amlwg mewn pinc na du, ond mae llawer o resymau eraill i gyffroi ynghylch ei wylio fe dros yr wythnosau nesaf, yn ôl Alan Davis.

“Galla i ddweud wrthoch chi ein bod ni i gyd wedi cyffroi o gael gweld Owain yn ei Giro cyntaf, yn dilyn yn ôl traed Geraint a Luke ac yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i gynifer o bobol ifanc yn y byd seiclo, ac yn enwedig yn y Maindy Flyers.”

Cofio’r Owain Doull ifanc

Mae Alan Davis yn cofio’r Owain Doull ifanc yn seiclwr dyfeisgar ac ymroddedig, ac yn hynod gystadleuol.

“Roedd Owain yn fachgen tawel a diymhongar.” meddai.

“Doedd e ddim yn seren ar unwaith, gyda mwy na’i siâr o lwc ddrwg, ond wnaeth hynny fyth effeithio arno fe.

“Daeth e ’nôl bob tro â gwên ar ei wyneb, yn awyddus i ddysgu ac i wella.

“Erbyn blynyddoedd cynnar ei arddegau, drwy gynnydd graddol a gwaith caled parhaus, roedd e yn y pac oedd yn arwain rasys rhyngwladol, yn aml yn gorffen yn y tri uchaf ac yn ennill ambell un.

“Fe ddaliodd e sylw Seiclo Prydain ac fe gafodd ei recriwtio i’r tîm talent.

“Fel Geraint a Luke, mae’r hyn mae e wedi’i gyflawni ers hynny’n anhygoel.”

Roedd crys a helmed pinc Owain Doull yn amlwg i bawb ar linell ddechrau’r ras, yn ogystal â Cort a dau arall sy’n obeithiol yn y Dosbarthiad Cyffredinol, sef Esteban Chaves a Hugh Carthy.

Bydd ras yn erbyn y cloc ar yr ail ddiwrnod fory (dydd Sadwrn, Mai 7) yn Budapest, a bydd y ras yn symud i Lyn Balaton cyn i’r peloton fynd am Sisili ac yna i’r Eidal.

Mae modd gwylio’r Giro d’Italia bob dydd ar S4C am 2 o’r gloch, gydag uchafbwyntiau bob nos am 9.35yh, ac mae modd dilyn y cyfan ar @seiclo ar Twitter a Facebook.