Ar ôl gêm gyfartal gyffrous yn Derby dros y penwythnos, mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Swydd Gaerlŷr i Erddi Sophia yng Nghaerdydd yn ail adran y Bencampwriaeth.

Hyd at belawd ola’r ornest, roedd pob canlyniad yn dal i fod yn bosib, ond rhedodd Morgannwg allan o amser wrth gwrso’r nod.

Daw’r batiwr llaw chwith Billy Root i mewn i’r garfan am y tro cyntaf y tymor hwn, a hynny yn dilyn canred i Rydaman yn Uwch Gynghrair De Cymru y penwythnos diwethaf.

Does dim lle i’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, ac mae’r chwaraewr amryddawn Andy Gorvin, sy’n chwarae i Sain Ffagan, yn cymryd ei le ac fe allai chwarae mewn criced dosbarth cyntaf am y tro cyntaf i’r sir ar ôl taro hanner canred di-guro yn y naill fatiad a’r llall i ail dîm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn.

Mae Timm van der Gugten, y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, allan ag anaf i linyn y gâr.

Mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl, tra bo’r ymwelwyr ar y gwaelod heb fuddugoliaeth hyd yn hyn eleni.

‘Mae lle i wella fel uned’

“Mae lle i wella fel uned,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard ar drothwy’r gêm.

“Fel uned fowlio, mae angen i ni weithio ychydig yn fwy mewn parau.

“Ond fedrwn ni ddim beirniadu ymdrechion pawb, ac weithiau rydan ni’n mynd ychydig yn emosiynol ac yn sbïo’n ormodol am wicedi.

“Rhaid i ni aros ynddi, yn y gêm, a chadw’r bêl ychydig dros y ffon agored a’r ardal honno.

“Dw i’n meddwl fod y ffordd mae Michael Hogan wedi arwain yr ymosod ers cryn dipyn o flynyddoedd yn crisialu hynny.

“Mae gynnon ni safon [Michael] Neser i edrych ymlaen ato fo hefyd.

“O ran Swydd Gaerlŷr, fedrwn ni ddim sbïo’n rhy bell ymlaen, ac mae’n rhaid i ni ei gymryd o fesul dydd, fesul sesiwn a’i dorri fo i lawr felly.

“Fedrwch chi ymlacio gormod, neu fethu â dangos dyledus barch iddyn nhw, oherwydd mae gynnon nhw chwaraewyr da yn eu tîm nhw.

“Os nad ydan ni’n dangos dyledus barch iddyn nhw, mi allai olygu trafferth, felly rydan ni wedi ymarfer yn galed i baratoi ar gyfer yr her.”

Gemau’r gorffennol

Dydy Swydd Gaerlŷr ddim wedi cael fawr o lwc yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf.

Morgannwg sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf yng Ngerddi Sophia, yn 2018 a 2019.

Yn 2019, tarodd Kraigg Brathwaite ganred i Forgannwg wrth iddyn nhw osod nod o 424 i’r ymwelwyr, a gafodd eu bowlio allan am 132 i sicrhau buddugoliaeth i’r sir Gymreig o 291 o rediadau.

Y flwyddyn gynt, enillodd Morgannwg o 132 o rediadau wrth i Kiran Carlson o Gaerdydd daro 83, gyda hanner canred yr un i Craig Meschede a Timm van der Gugten, a phedair wiced am 30 i Michael Hogan.

Tarodd Dieter Klein 94 mewn partneriaeth wiced olaf cyn i’r ornest ddod i ben yn ofer i’r Saeson.

Dydy’r ymwelwyr ddim wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2016, a hynny o ddeg wiced – eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghaerdydd ers 2001, a hynny diolch i chwe wiced Clint McKay cyn i hwnnw glatsio hanner canred, gyda’r Gwyddel Niall O’Brien hefyd yn sgorio 93 cyn i Ben Raine gipio pedair wiced.

Mae’r timau wedi herio’i gilydd 22 o weithiau yng Ngerddi Sophia ers 1967, gyda chwe buddugoliaeth i Forgannwg a naw i’r Saeson.

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), K Carlson, C Cooke, T Cullen, A Gorvin, J Harris, M Hogan, M Labuschagne, M Neser, S Northeast, B Root, A Salter, J Weighell

Carfan Swydd Gaerlŷr: Hassan Azad, E Barnes, W Davis, S Evans, B Hendricks, L Kimber, B Mike, W Mulder, C Parkinson (capten), R Patel, S Steel, H Swindells, C Wright

Sgorfwrdd