Bydd modd gwylio Giro d’Italia 2022 yn ei chyfanrwydd ar S4C, gyda chymalau byw a rhaglenni uchafbwyntiau dyddiol.

S4C yw’r unig ddarlledwr cyhoeddus am ddim yn y Deyrnas Unedig fydd yn darlledu’r ras, a fydd yn dechrau ddydd Gwener Mai 6.

Bydd y gyfres Seiclo yn dilyn y cyfan, gan ddechrau yn Budapest, wrth i’r reidwyr deithio 3,410 o gilomedrau dros gyfnod o dair wythnos ar hyd ffyrdd yr Eidal.

Mae’r Cymro Owain Doull ymysg y seiclwyr fydd yn cymryd rhan yn y ras eleni, gan rasio yn erbyn cystadleuwyr fel Richard Carapaz, Tom Dumoulin, Mark Cavendish, a Mathieu van der Poel.

Bydd tîm Seiclo yn tywys gwylwyr drwy’r cyfan, gyda Rhodri Gomer yn cyflwyno, Wyn Gruffydd, John Hardy, a Gareth Rhys Owen yn sylwebu, a Gruff Lewis, Dewi Owen, a’r brodyr Rheinallt a Peredur ap Gwynedd yn dadansoddi.

Bydd clipiau dyddiol o’r ras, yn ogystal â chlipiau fideo yn edrych ymlaen at bob cymal, yn cael eu cyhoeddi ar Twitter a Facebook @Seiclo.